Ynni adnewyddadwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn ailgyfeirio at Egni adnewyddadwy
trefn
Llinell 1:
[[Delwedd:Egni Adnewyddadwy 1.svg|250px|bawd|dde|Yr holl egni adnewyddadwy mae'r Ddaear yn ei dderbyn.]]
#REDIRECT[[Egni adnewyddadwy]]
'''Egni adnewyddol''' (hefyd: '''egni adnewyddadwy''', '''egni adnewyddadwy''') yw [[egni]] sydd 'byth' yn gorffen. Mae'n groes i egni anadnewyddwy sef egni a fydd yn dod i ben yn y 500 o flynyddoedd nesaf.
 
Mae egni adnewyddadwy'n cael ei gynhyrchu allan o [[adnodd adnewyddadwy|adnoddau adnewyddadwy'r]] blaned. Dyma rai o'r gwhanol fathau:
 
===Ynni Niwclear===
{{prif|Ynni niwclear}}
Ceir dau fath o Ynni Atomig. Y cyntaf yw [[Ymasiad niwclear]]", pan fo [[niwclews|niwclysau]] [[elfen]] sydd â [[rhif atomig]] isel yn uno i ffurfio niwclews elfen drymach. Dyma'r broses sy'n digwydd yn yr [[haul]], ac mae [[gwyddoniaeth|gwyddonwyr]] yn ceisio efelychu'r broses hon ar y ddaear i gynhyrchu [[trydan]], ond mae llawer o waith yn dal i'w wneud oherwydd y tymheredd uchel sydd yn angenrheidiol. Dyma greal Sanctaidd y gwyddonydd gan nad oes ganddo wastraff peryglus. Ond gan nad yw wedi ei berffeithio, ni ellir ateb y cwestiwn: i ba raddau y bydd ynni o ymasiad niwclear yn adnewyddadwy?
 
Dydy'r ail fath o ynni niwclear, sef [[Ymholltiad niwclear]], ddim yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ôl llawer o wyddonwyr, er bod yr [[Unol Daleithiau America|UDA]] yn datgan ei fod. Am ragor ar y ddadl hon gweler: [[dadleuon ynghylch ynni niwclear]].
 
===Egni Solar===
{{prif|Egni solar}}
Egni solar yw'r pelydrau gwres a golau sy'n dod o'r haul. Mae pobl wedi bod yn ei ddefnyddio ers tro gan ddefnyddio technolegau amrywiol sydd wedi datblygu dros amser.
Daw egni solar o'r haul, a cheir mwy o'r egni hwn nag unrhyw fath arall. Mae'r diwydiant hwn hefyd yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddiwydiant cynaeafu egni arall: 50% yn fwy pob blwyddyn, yn enwedig [[egni solar|cynaeafu trydan]] drwy PV ([[Panel solar|celloedd 'photovoltaic']]). Tywyna'r haul 10,000 gwaith mwy o egni nac yr ydym ei angen.
 
Ceir tair ffordd wahanol o ddefnyddio pŵer yr haul yn uniongyrchol:
 
: celloedd solar
: ffwrnais solar
: paneli solar.
 
===Egni Gwynt===
{{prif|Egni gwynt}}
Mae dyn ers canrifoedd wedi ceisio trawsnewidiad egni gwynt i ffurf defnyddiol megis symudiad carreg ar garreg mewn melin; datblygiad o hyn yw trawsnewid egni'r gwynt i [[egni trydan]] neu [[egni cinetig]]. Mae gwynt yn bodoli gan fod rhai rhannau o'r blaned yn poethi yn fwy na rhannau eraill a bod canol (mewnol) y blaned yn boeth. Drwy i lafnau melinau gwynt droi [[tyrbein]], trosglwyddir y symudiad hwn yn gerrynt trydanol. Mae'r gwaith o'i hadeiladu wedi dechrau yn y môr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain [[Cymru]] o'r enw '''Gwynt y Môr''' gan Gwmni NPower Renewables. Hon fydd y fferm wynt ail fwyaf yn y byd.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7760000/newsid_7762200/7762233.stm BBC Cymru: "Golau gwyrdd i gynllun fferm wynt", 3 Rhagfyr 2008]</ref>
 
===Egni Dŵr===
{{prif|Egni hydro}}
[[Ynni hydro|Pwer hydro]], pwer hydrolig neu egni dŵr yw'r pwer sy'n deilliadol o rym symudiad dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i greu egni mwy defnyddiol. Mae symudiad dŵr hefyd yn medru troi tyrbein a chreu trydan, boed y llif naill ai mewn moroedd, afonydd neu lynnoedd. Gelwir hyn yn ynni hydro neu ynni dŵr. Un o'r datblygiadau cynharaf yng Nghymru parthed egni dŵr oedd cronfa ddŵr gerllaw pentref [[Tanygrisiau]] yn ardal [[Blaenau Ffestiniog]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], sef [[Llyn Stwlan]] a agorwyd yn swyddogol yn [[1961]].
 
===Egni Geothermol===
{{prif|Egni geothermol}}
Pwer gwres a storiwyd yn y ddaear yw egni geothermal. Drwy ddefnyddio technoleg newydd tebyg iawn i'r oeriadur ([[y pwmp gwres]]), mae egni geothermal medru cael ei 'chwyddo'. Mae dau fath gwahanol: pibellau tua dwy fetr o dan wyneb y ddaear (lle mae'r tymheredd yn gyson 10 - 14 gradd canradd yn gwagio eu hegni drwy gyfnewidydd gwres i system gwres canol y tŷ. Yn ail, pibellau hirion fertig sy'n manteisio ar wres uchel canol y ddaear. Mae Ynys yr Iâ wedi bod yn defnyddio'r math hwn o drydan ers blynyddoedd.
 
===Egni Biomas===
{{prif|Ynni biomas}}
Egni o blangigion yw hyn. Gallwn ddistyllu alcohol allan o gorn melys neu siwgwr - i droi peiriannau neu i symud cerbydau. Ystyrir hyn yn ddull adnewyddadwy gan y gellir tyfu ychwaneg o'r planhigion o fewn dim.
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:Ynni adnewyddadwy]]
[[Categori:Ynni]]
[[Categori:Amgylchedd]]
 
{{eginyn amgylchedd}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|af}}
 
[[af:Hernubare energie]]
[[an:Enerchía renovable]]
[[ar:طاقة متجددة]]
[[arz:طاقه متجدده]]
[[bat-smg:Atsėnaujėnontė energėjė]]
[[be-x-old:Аднаўляльная энэргія]]
[[bg:Възобновяема енергия]]
[[bs:Obnovljiva energija]]
[[ca:Energia renovable]]
[[cs:Obnovitelný zdroj energie]]
[[da:Vedvarende energi]]
[[de:Erneuerbare Energie]]
[[el:Ήπιες μορφές ενέργειας]]
[[en:Renewable energy]]
[[eo:Renoviĝanta energio]]
[[es:Energía renovable]]
[[et:Taastuv energiaressurss]]
[[eu:Energia berriztagarri]]
[[fa:انرژی تجدیدپذیر]]
[[fi:Uusiutuva energia]]
[[fr:Énergie renouvelable]]
[[gl:Enerxía renovable]]
[[he:אנרגיה מתחדשת]]
[[hi:अक्षय उर्जा]]
[[hr:Obnovljiva energija]]
[[hu:Megújuló energiaforrás]]
[[id:Energi terbarui]]
[[is:Endurnýjanleg orka]]
[[it:Energie rinnovabili]]
[[ja:再生可能エネルギー]]
[[ka:განახლებადი ენერგია]]
[[ko:재생가능 에너지]]
[[lb:Erneierbar Energie]]
[[lt:Atsinaujinantieji energijos ištekliai]]
[[ml:പുനരുപയോഗ ഊർജ്ജങ്ങൾ]]
[[mr:अपारंपरिक ऊर्जास्रोत]]
[[ms:Tenaga boleh diperbaharui]]
[[new:पूर्ननविकरणीय उर्जा]]
[[nl:Duurzame energie]]
[[no:Fornybar energi]]
[[pl:Odnawialne źródła energii]]
[[pt:Energia renovável]]
[[qu:Kutipayaq micha]]
[[ro:Energie regenerabilă]]
[[ru:Возобновляемая энергия]]
[[simple:Renewable energy]]
[[sk:Obnoviteľný zdroj energie]]
[[sl:Obnovljivi viri energije]]
[[sr:Обновљиви извори енергије]]
[[sv:Förnybara energikällor]]
[[ta:புதுப்பிக்கத்தக்க ஆற்றல்]]
[[th:พลังงานทดแทน]]
[[tr:Yenilenebilir enerji]]
[[uk:Відновлювана енергетика]]
[[vi:Năng lượng tái tạo]]
[[wa:Todi-poujhåve enerdjeye]]
[[war:Masasaliwanan nga enerhiya]]
[[wuu:可再生能源]]
[[yi:דערנייבארע ענערגיע]]
[[zh:可再生能源]]
[[zh-yue:可再生能源]]