Gwaith Haearn y Bers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
canolfan dreftadaeth
→‎Hanes: magneli
Llinell 6:
 
 
Ym 1753, cymerodd [[Isaac Wilkinson]] yr awenau. Dyfeisydd o ogledd Lloegr oedd Wilkinson, ac roedd yn awyddus i gael hyd i ragor o haearn. Ehangodd y gwaith a gwnaeth botiau, pibelli, rholwyr, ac arfau, ond roedd o mewn trafferthion ariannol erbyn 1761. Roedd ei fab, [[John Wilkinson]], yn fwy llwyddiannus.<ref>[http://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/bersham_ironworks_w/early_years.htm Gwefan Cyngor Wrecsam]</ref> Disodlodd ei dad, yn cydweithio efo’i frawd [[William Wilkinson]] ym 1763. Adeiladwyd magnelau i’r fyddin a phystonau ar gyfer peiriannau stêm [[Matthew Boulton]] a [[James Watt]]yn defnyddio modd newydd o’u gwneud, yn gwella safon y cynnyrch. Defnyddiwyd y magneli yn rhyfeloedd yn erbyn [[Napoleon]] a hefyd yn [[Rhyfel Annibyniaeth America]]. Estynwyd y gwaith haearn, gyda melin duriad, melin rolio, ffwrneisi, ffowndri i greu magneli a bythynnod i’r gweithwyr. Anfonwyd ei nwyddau trwy borthladd [[Caer|Gaer]] ac ar y camlesi o [[Preston Brook]]. Ym 1792, prynodd Wilkinson Stad [[Brymbo]] i greu gwaith haearn newydd i ddisodli’r Bers.<ref>[http://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/bersham_ironworks_w/forging_ahead.htm Gwefan Cyngor Wrecsam]</ref>
 
==Cyfeiriadau==