Afon Dyfrdwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
lladin
Llinell 1:
[[Delwedd:Llangollen railway station.jpg|250px|de|ewin bawd|Afon Dyfrdwy yn Llangollen]]
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Afon Dyfrdwy''' (weithiau hefyd gyda threiglad, '''Afon Ddyfrdwy'''); ([[Saesneg]], ''River Dee''; [[Lladin]], ''Deva Fluvius''). Mae'n llifo trwy siroedd [[Gwynedd]], [[Sir Ddinbych]] a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]] yng Nghymru ac ar hyd ffin [[Swydd Gaer]] a [[Swydd Amwythig]] yn Lloegr.
 
Mae'n llifo o'r bryniau uwchben [[Llanuwchllyn]] yn [[Gwynedd|Ngwynedd]] trwy [[Llyn Tegid|Lyn Tegid]], dros Raeadr y Bedol a thrwy [[Llangollen]]. Ger Llangollen, mae [[Camlas Llangollen]] (hen enw: Camlas Ellesmere) yn croesi'r afon ar [[Traphont Pontcysyllte|Draphont Pontcysyllte]] a adeiladwyd gan [[Thomas Telford]] ym [[1805]]. Yn [[Lloegr]], mae dinas [[Caer]] ar lan ddwyreiniol yr afon. Mae'n llifo i mewn i'w [[aber]] yn fuan wedyn; gelwir yr ardal o gwmpas ei glannau yn [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]].
Llinell 29:
[[Delwedd:SPIMG0001a.jpg|270px|ewin bawd|chwith|Pont bwa Bangor is y Coed]]
 
O'r fan lle mae [[afonAfon Ceiriog]] yn ymuno a hi, mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am rai milltiroedd, cyn dychwelyd i Gymru ger [[Erbistog]] a llifo heibio [[Bangor-is-y-coed]]. Ychydig ymhellach ymlaen, mae [[Afon Clywedog (Dyfrdwy)|afon Clywedog]] yn ymuno a hi, yna mae'n llifo tua'r gogledd, gan ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr eto, a llifo heibio [[Holt]] a [[Farndon, Swydd Gaer|Farndon]]. Mae [[afonAfon Alun]] yn ymuno a hi ychydig ymhellach i'r gogledd. Mae'r afon yn croesi i mewn i Loegr ger [[Aldford]] ac yn llifo heibio [[Eccleston]] a throi tua'r gorllewin trwy ddinas [[Caer]]. Yn fuan wedyn, mae'n dychwelyd i Gymru ac yn llifo tua'r gogledd-orllewin heibio [[Queensferry]] a [[Shotton]], cyn lledaenu i greu aber o faint sylweddol, gyda'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn arwain ar hyd ei chanol. Mae'n cyrraedd y môr ger [[y Parlwr Du]] ar yr ochr Gymreig a [[Hoylake]] ar yr ochr Seisnig.
 
== Traddodiadau ==