Taith Taf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyswllt uniongyrchol i'r nod
Delwedd + Comin Wikimedia
Llinell 1:
[[Delwedd:Start of Taff Trail.jpg|bawd|Man cychwyn Llwybr Taf ym Mhlas Roald Dahl, Caerdydd]]
 
Llwybr yn ne Cymru ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yw '''Llwybr Taf''', weithiau '''Llwybr y Taf''' ([[Saesneg]]: ''Taff Trail''). Mae'r llwybr, sy'n rhan o [[Lôn Las Cymru]], yn ymestyn am 55 milltir rhwng [[Caerdydd]] ac [[Aberhonddu]], gan ddilyn [[Afon Taf (Caerdydd)|Afon Taf]] am ran helaeth o'r ffordd.
 
Mae'r llwybr yn cychwyn ym [[Plas Roald Dahl|Mhlas Roald Dahl]], Caerdydd, ac yn croesi Afon Taf ac yna'n ei dilyn tua'r gogledd drwy ganol y ddinas, gan ddod o fewn 50 llath i orsaf reilffordd ganolog Caerdydd a [[Stadiwm y Mileniwm]]; yna mae'n arwain trwy [[Gerddi Sophia|Erddi Sophia]], [[Parc Bute]] a Meysydd [[Pontcanna]]. Wedi gadael y ddinas, mae'n mynd drwy bentref [[Tongwynlais]], lle mae'n fforchio, gydag un fforch yn dringo i [[Castell Coch|Gastell Coch]] a'r fforch arall yn mynd islaw'r castell. Mae'r ddwy ran yn ail-ymuno ger [[Nantgarw]].
 
Oddi yma, mae'n dilyn llwybr seiclo cenedlaethol rhif 4 heibio [[Pontypridd]] a [[Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf|Rhydyfelin]], [[Cilfynydd]] ac [[Abercynon]]. Ger [[Pontygwaith, Merthyr Tudful|Pontygwaith]], mae'n dringo'n serth uwchben y briffordd [[A470]] i [[Aberfan]], yna trwy bentrefi [[Troed-y-rhiw]] ac [[Abercannaid]], i gyrraedd [[Merthyr Tudful]].
Llinell 8 ⟶ 10:
 
Ceir hefyd lwybr arall a elwir yn Llwybr Taf sy'n dilyn [[Afon Taf Fawr]] o Gefn Coed i Aberhonddu.
 
{{CominCat|Taff Trail|Llwybr Taf}}
 
[[Categori:Cludiant yng Nghaerdydd]]