Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cywydd deuair hirion"

Ychwanegwyd 8 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>''Anghenion y Gynghanedd'', Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.</ref>
 
O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn [[Glêr]]. Ystyrir [[Dafydd ap Gwilym]], bardd a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ffigwr canolog a phwysig yn natblygiad y cywydd ac yn rhannol gyfrifol am ddyrchafu ei statws.<ref>''Gwaith Dafydd ap Gwilym'', Thomas Parry, Gwasg Prifysgol Cymru, Ail argraffiad, 1963.</ref>
 
Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[torr mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.
425

golygiad