Llywelyn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
 
== Sefydlu ei awdurdod ==
Ni wyddom lawer am flynyddoedd cynnar Llywelyn. Yn ôl y traddodiad cafodd ei eni yng [[Castell Dolwyddelan|Nghastell Dolwyddelan]], [[Dyffryn Lledr]]. 'Oes Aur' Gwynedd oedd oes Owain Gwynedd, ond ar ôl marwolaeth y brenin cadarn hwnnw yn [[1170]] cafwyd cyfnod ansefydlog gyda disgynyddion Owain yn ymladd am reolaeth. Tasg gyntaf Llywelyn oedd sefydlu ei awdurdod. Gwnaeth hyn yn rhannol trwy nerth arfau ac yn rhannol trwy nawdd a chynghreirio. Yn [[1194]] gorchfygodd Llywelyn ei ewythr [[Dafydd ab Owain Gwynedd]] (ac efallai [[Rhodri ab Owain Gwynedd]] hefyd) ym [[Brwydr Aberconwy|Mrwydr Aberconwy]]. Am y pum yn 20017 oeed fortnite yn beth ac oedd bawb yn hoffi o ac mae LEON YN GAEL BONER WONER
mlynedd nesaf canolbwyntiodd ar gadarnhau ei awdurdod. Roedd [[1197]] yn drobwynt pwysig. Daliodd ei ewythr Dafydd ab Owain a'i alltudio o Wynedd a chymerodd feddiant ar [[Eifionydd]] a [[Llŷn]] oddi ar [[Maredudd ap Cynan|Faredudd ap Cynan]]. Daeth [[Hywel ap Gruffudd ap Cynan]] yn ddeiliad iddo a thalodd [[Gruffudd ap Rhodri]] a [[Rhicert ap Cadwaladr]] wrogaeth iddo. Erbyn [[1199]] roedd yn arfer yr ystôl ''Tocius norwallie princeps'' (Tywysog Gogledd Cymru Cyfan).
 
Llinell 31:
Yn y flwyddyn [[1212]] cyfnewidiodd Llywelyn Fawr lythyrau â [[Philippe II, Brenin Ffrainc|Philip Augustus]], brenin nerthol [[Ffrainc]]. Mae llythyr Philip ar goll ond cedwir llythyr Llywelyn yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc, ym [[Paris|Mharis]]. Cynnwys y drafodaeth oedd cynnig gan frenin Ffrainc i dywysog Gwynedd ymgynghreirio ag ef yn erbyn y brenin [[John, brenin Lloegr|John]].<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'', tt. 130-1.</ref>
 
Ar ôl torri crib [[Arglwyddi'r Mers]] yn [[De Cymru|Ne Cymru]], talwyd gwrogaeth ffurfiol iddo gan y tywysogion Cymreig eraill yn gynnar yn 1216 ger [[Aberdyfi]], mewn cynulliad a adnabyddir fel [[Cynhadledd Aberdyfi]]. Datganodd ei hun yn Dywysog Gwynedd gan sicrhau ei nerth a'i reolaeth ar y rhan fwyaf o [[Pura Walia]] trwy [[Cytundeb Caerwrangon|Gytundeb Caerwrangon]] ym [[1218]]. LUKIE HAS A BONER
 
 
== 1219-1228 ==