Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sadwrn (planed)"

No change in size ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
 
==Y Cewri Nwy==
Ar y cyd â Iau, Neifion ac Iwranws mae Sadwrn yn aelod o deulu o 4, y "cewri nwy". Mae tua 95 gwaith mwy na'r ddaear ac, fel y cewri nwy eraill, wedi ei gyfansoddi yn bennaf o heidrogen a heliwm, gyda chyfran fechan o nwyon eraill ar ffurf methên ag amonia'n bennaf yn yr atmosffêr tennau allanol. Wrth deithio tua'r canol byddai rywun yn suddo i fôr o [[hydrogen]] a [[heliwm]] hylifol fyddai'n newid wrth i'r pwysedd a'r tymheredd gynnyddu i ffurf fetalaidd hylifol yn amgylchynnu cnewyllyn bychan creigiog. Rhyfedd meddwl y byddai Sadwrn, er ei fod cymaint mwy o faint na'r ddaear, yn llai o ran dwysedd ar gyfartaledd. Golyga hynny y buasai'n nofio ar un o foroedd y ddaear – petae un digon mawr!.
 
==Darganfod==
==Y cylchoedd==
 
Nodwedd amlycaf Sadwrn, wrth edrych arno o bell, yw'r cylchoedd mawr sy'n ymestyn allan i'r gofod uwchben ei gyhydedd gan bron iawn ddyblu ei faint ymddanghosiadol. Mae'n bosib gweld tri cylch o'r ddaear: A, B, C a darganfyddwyd cylch arall mewnol yn 1969. Ond yna, pan ddaeth lluniau lloeren o Pioneer 11 yn 1979, Voyager 1 a 2 yn 1980–81, Galileo ddechrau'r 1990au ac yn ddiweddar Cassini ers 2004, darganfyddwyd llawer mwy a bod patrymau rhyfeddol o hardd a chymhleth iddynt.
 
Darnau o rew a chreigiau, â'u meintiau yn ymestyn o ronnynau o lwch i gyrff rai cilomedrau ar eu traws sydd yn y cylchoedd. Mae'r cylchoedd eu hunnain yn dennau iawn, tua kilomedr o drwch, ac mae, mewn gwirionedd, filoedd ohonynt. Rhai yn llyfn, eraill ar batrwm tebyg i blethen hir droellog ac eraill yn donnog. Mae'n debyg mai symudiadau creigiau go fawr neu leuadau bychain ymysg y cylchoedd sy'n gyfrifol am y patrymau hyn a bod y bylchau rhyngthynt wedi eu ffurfio wrth i lwch a cherrig gael eu sgubo i fyny gan greigiau neu leuadau bychain ar eu hynt.
A tharddiad y cylchoedd? Posib mai rhyw gorff neu gyrff astronomegol gafodd eu chwalu'n yfflon gan rym ddisgyrchiant Sadwrn ydynt, a bod rhai o'r gweddillion yn dal i gylchdroi hyd heddiw ar ffurf disg tennau. Mae'n ddifyr bod gan bob un o'r cewri nwy eraill gylchoedd hefyd, ond rhai llawer iawn llai na Sadwrn; rhai nas darganfyddwyd tan i luniau lloeren ein cyrraedd o'r 1980au ymlaen.
 
Ceir esboniad difyr o bwrpas cylchoedd Sadwrn yn Yr Anianydd Cristnogol, T. Dick (1860), tud. 207: “Un o ddybenion eglur y modrwyau yma yw adlewyrchu goleuni ar y blaned yn absenoldeb yr haul; ac wrth bob tebyg, eu bod yn gwasanaethu fel cyfaneddle helaeth i fyrddiynau o fodau teimladol a deallol…”. Nid yw'n ymhelaethu, gwaetha'r modd, ar pa fath o fodau byw fyddai y rheiny.
 
Mae'r bandiau a welir ar Iau yn llai amlwg ar Sadwrn. Maen nhw hefyd yn fwy llydan wrth gyhydedd y blaned. Mae manylion y cymylau'n anweledig oddi ar y Ddaear, felly ni ellid astudio cylchrediad atmosfferig Sadwrn hyd nes i Voyager gyrraedd y blaned. Mae Sadwrn hefyd yn dangos stormydd hirgrwn mawr o hir oes a nodweddion eraill a welir ar Iau.
132

golygiad