Gogerddan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ystad ger [[Trefeurig]], bedair milltir i'r gogledd-ddwyrain o [[Aberystwyth]] oedd Gogerddan, neu '''Blas Gogerddan''', ac un o blastai pwysicaf Sir Aberteifi, ar un adeg.
 
Roedd y tŷ yn eiddo i'r teulu ers y teulu Pryse o'r [[15g]] neu cyn hynny, mae'r prif dŷ, Plas Gogerddan, yn dal i sefyll ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Daeth yr ystad yn arbennig o gyfoethog o'r [[17g]] ar yr elw o [[mwyngloddio|fwyngloddio]] [[plwm]], a gyda rhan o'r elw hwnnw yr adeiladwyd y tŷ presennol. Cafodd y tŷ ei newid yn sylweddol yn y 1860au ac fe'i gwerthwyd gan Syr Pryse Loveden Saunders-Pryse i Brifysgol Cymru yn 1949.
 
Bellach fe'i defnyddir fel pencadlys [[Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru''; tuda. 910; gol John Davies, Peredur Lynch, Menna Baines a Nigel Jenkins; Gwasg Prifysgol Cymru (2008).</ref>