Urdd Gobaith Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Diweddariadau
Dim crynodeb golygu
Llinell 52:
Gŵyl aml chwaraeon i bobl ifanc Cymru yw Gemau Cymru. Cynhaliwyd ar draws dau benwythnos yn 2019 ym [[Bala|Mala]] a Chaerdydd.
 
Nod Gemau Cymru yw ysbrydoli pobl ifanc Cymru i barhau i ddysgu a datblygu fel athletwyr a dinasyddion. Gemau Cymru yw’r prif ddigwyddiad dwyieithog ar gyfer pobl  ifanc yng nghalendr chwaraeon Cymru, sy’n hybu llwybrau chwaraeon Cymru.
 
Mae Gemau Cymru yn rhoi profiad cadarnhaol i bobl ifanc dalentog o ddigwyddiad aml-chwaraeon cynhwysol trwy gystadleuaeth chwaraeon berthnasol a phentref athletwyr.
Llinell 58:
== Prentisiaethau ==
Wedi gweld llwyddiant prentisiaethau gydag adrannau chwaraeon ac awyr agored yr Urdd, ac mewn ymateb i ddiffyg prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yng Nghymru<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/43777632|title=Prentisiaethau: Galw am fwy yn y Gymraeg|date=2018-04-16|language=en-GB|access-date=2019-05-15}}</ref>, mae Urdd Gobaith Cymru yn gweithio tuag at ddatblygu yr prentisiaethau ymhellach, gyda tharged o gynnig 100 o brentisiaethau mewn amryw o feysydd newydd erbyn 2022.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/44329211|title=Yr Urdd yn gosod nod o 100 prentisiaeth|date=2018-06-01|language=en-GB|access-date=2019-05-15}}</ref>
 
Mae Adran Chwaraeon yr Urdd wedi uno ag ACT ac ALS - hyfforddiant prentisiaethau, ac [[Agored Cymru]] - corff dyfarnu cyfrwng Gymraeg, i greu a chyflwyno cynllun prentisiaeth llwyddiannus sydd wedi ei ariannu gan [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]].
 
Heddiw, mae 38 prentis dros 17 mlwydd oed yn cael eu hyfforddi yn y sectorau chwaraeon, awyr agored a gwaith ieuenctid. Mae tri aelod o staff yn gweithio'n llawn amser ar y cynllun a hyd at 50 o staff yn cael cyswllt cyson gyda'r prentisiaid. Y bwriad yw ehangu ein prentisiaethau i gynnig cyfleoedd mewn meysydd newydd fel marchnata, digwyddiadau, dylunio a gofal cwsmer.