Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 90:
Yn [[125 CCC]] ymosododd y Rhufeiniaid ar dde [[Gâl]], yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinas [[Marseille|Massilia]]. Erbyn 121 CCC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarach daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw [[Gallia Narbonensis]]. Concrwyd gweddill Gâl gan [[Iŵl Cesar]] mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CCC a 51 CCC. Y frwydr dyngedfennol oedd [[Brwydr Alesia]] yn 52 CCC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad [[Vercingetorix]] o lwyth yr [[Arverni]].<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 7.88</ref>
 
Roedd Iŵl Cesar wedi ymosod ar Brydain ddwywaith yn ystod ei ymgyrchoedd yn erbyn y Galiaid, ond dim ond yn 43 CC y gwnaed ymgais benderfynol i ymgorffori Prydain yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Dros y blynyddoedd nesaf, ymestynnodd y Rhufeiniaid eu rheolaeth dros yr ynys. Cyrhaeddwyd y penllanw yn tua 83 neu 84 CC pan orchfygodd [[Agricola]] y [[Caledoniaid]] ym [[Brwydr Mons Graupius|Mrwydr Mons Graupius]] yn yr hyn sy'n awr ynyng ogleddngogledd [[yr Alban]]. Fodd bynnag, ni allodd y Rhufeiniaid ddal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r Alban, ac adeiladwyd [[Mur Hadrian]] i amddiffyn y ffin. Yng ngogledd yr Alban ac yn [[Iwerddon]], nas ymosodwyd arni gan y Rhufeiniaid, parhaodd teyrnasoedd Celtaidd annibynnol mewn bodolaeth.
 
==Llywodraeth ac economi==