Awdl enghreifftiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
Cyflwynwyd awdl enghreifftiol o waith [[Roy Stephens]] i gystadleuaeth y gadair ym [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978|1978]], ond ataliwyd y wobr. Yn ogystal, cyflwynwyd awdl enghreifftiol i gystadleuaeth y gadair ym [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993|1993]] o dan y ffugenw ''RHisiart, Gweunydd'', ond gosodwyd yr awdl yn isel yn y gystadleuaeth oherwydd bod cyfyngiadau rhai o'r mesurau yn rhoi straen ar y mynegiant.<ref>Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1993, Gwasg Dinefwr</ref>
 
Canodd [[Dafydd Nanmor]]; gŵr a ystyrid i fod yn arloesol o ran ''chware campau â chynghanedd a mydr''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref> yn yei bymthegfed ganrifddydd; awdl enghreifftiol ar yr [[Pedwar mesur ar hugain|hen fesurau]] yn hytrach na dilyn mesurau [[Dafydd ab Edmwnd]]. Ceir hefyd awdlau enghreifftiol o waith [[Gwilym Tew]] a nifer o feistri mawr cyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]], ond gellir dweud nad yw'r awdlau hyn ymysg eu gweithiau mwyaf arhosol, a bod mwy o werth llenyddol yn eu cywyddau gan mai gorchestion cynganeddol oedd yr awdlau yn bennaf. Dywed y [[Prifardd]] [[Alan Llwyd]]:
:''...unig ddiben yr awdlau hyn oedd profi hyfedredd. Rhyw fath o feini prawf oedd yr awdlau enghreifftiol hyn, a dim arall.''<ref>[[Alan Llwyd]], ''Anghenion y Gynghanedd'', Cyhoeddiadau Barddas, 2007</ref>