Awdl enghreifftiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Math arbennig o '''[[awdl]]''' yw '''awdl enghreifftiol''' sy'n cynnwys pob un o'r [[Pedwar Mesur ar Hugain]].
 
Yn wreiddiol, ''cân ar un mesur oedd awdl''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref>, ond dechreuodd y Gogynfeirdd hwyraf ganu ''teirawdl'' a ''phymawdl'', felly daeth '''awdl''' yn gyfystyr â cherdd ar fwy nag un mesur. Ers amser [[Beirdd yr Uchelwyr]], mae '''awdl''' wedi golygu cerdd ar fwy nag un o'r [[Pedwar mesur ar hugain|mesurau caeth traddodiadol]]. Mae '''awdl enghreifftiol''' yn cynnwys pob un o'r mesurau hyn, boed ddosbarth [[Pedwar mesur ar hugain#Mesurau Dafydd ab Edmwnd|ddosbarth Dafydd ab Edmwnd]] neu'r [[Pedwar mesur ar hugain#Yr Hen XXIV Mesur|hen fesurau]]
 
Yn amlach na pheidio, er gorchest yn unig y canwyd awdlau enghreifftiol fel mesur o fedrusrwydd a deheuigrwydd y [[bardd]] caeth wrth drin y mesurau traddodiadol. Cenid awdlau enghreifftiol yn aml gan feirdd ar eu prifiant er mwyn dangos bod ganddynt afael cadarn ar eu crefft.<ref>[http://users.comlab.ox.ac.uk/geraint.jones/gwasg.aredig/cynghanedd/geirfa/#awdl_engreifftiol Clywed Cynghanedd]</ref>