Pedwar mesur ar hugain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Gwall teipio + dolen |
||
Llinell 3:
Y '''Pedwar mesur ar hugain''' yw'r gyfundrefn o [[canu caeth|fesurau caeth]] a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr [[Oesoedd Canol Diweddar]], sef cyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]]. Fe'i cysylltir yn bennaf ag enwau [[Einion Offeiriad]] a [[Dafydd Ddu Hiraddug]], dau fardd a geisiodd gosod trefn ar y mesurau caeth yn y [[14eg ganrif]]. Yn ddiweddarach cafodd y Pedwar mesur ar hugain eu newid rywfaint gan [[Dafydd ab Edmwnd]] a'u defnyddio felly yn [[Eisteddfodau Caerwys|Eisteddfod gyntaf Caerwys]] ([[1523]]).
Camgymeriad fyddai tybied fod y mesurau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan y beirdd. Gan amlaf anwybyddwyd y rhan fwyaf
Digwyddodd hynny yn [[Eisteddfod Caerfyrddin]], yn [[1451]]<ref>[[Anghenion y Gynghanedd]] gan [[Alan Llwyd]]; Gwasg Prifysgol Cymru</ref>. Ni wyddys os cawasant eu defnyddio yn yr eisteddfod honno, ond yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 gosodwyd y rheol fod rhaid i fardd fedru canu ar y Pedwar Mesur ar Hugain. Er mor ymarferol oedd rhai o'r mesurau, bwriad y gyfundrefn oedd ceisio cadw bwlch rhwng y [[bardd llys|beirdd llys]] a'r beirdd llai a elwir yn [[Glêr]] (beirdd crwydrol tebyg i finstreliaid).
|