Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pelagius"

Lleihawyd o 54 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
manion
(delwedd)
(manion)
{{Other uses}}
:''Am bobl eraill o'r un enw gweler [[Pelagius (gwahaniaethu)]].''
[[Delwedd:Pelagius.jpg|250px|bawd|Pelagius (llun dychmygol)]]
[[Diwinyddiaeth|Diwinydd]] [[Brythoniaid|Brythonig]] oedd '''Pelagius''' (tua [[350]] - tua [[418]]), a wrthwynebai athrawiaeth [[Awstin o Hippo]] am ras anorchfygol. Condemniwyd ef a'i ddysgeidiaeth, a elwir weithiau yn 'Belagiaeth', am fod yn [[heresi|heresïol]] yn nes ymlaen ond am gyfnod bu'n eithaf dylanwadol. Yn y traddodiad Cymreig cyfeirir ato weithiau fel '''Morgan''' (sy'n deillio o '[[môr]]anedig' efallai, cyfystyr â'r enw [[Lladin]] ''Pelagius'').
 
Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o [[Ynys Prydain|Brydain]], o dras BrythonigFrythonig, a deithiodd i ddinas [[Rhufain]] ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdwrdysgawdr gyda chylch o ddisgyblion o dras bonheddigfonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyraeth [[Duw]] ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth [[pechod gwreiddiol]].
 
Wrth i'r [[Fisigothiaid]] baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffoesffois o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]]. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno ffoesfois i [[Palesteina|Balesteina]].
 
YsgrifenoddYsgrifennodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif a'r ganrif olynol. CadarnheuwydCadarnhawyd hynny gan benderfyniad [[Cyngor Trent]] (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r [[Calfin]]iaid.
 
Un o'i ddisgyblion ysbrydol oedd yr awdur a adweinir fel [[Y Brython Sisilaidd]]. YsgrifenoddYsgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl ''De Divitis'' ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, [[sosialaeth|sosialaidd]] eu naws, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychairebychiad oedd ''Tolle divitem"'' ("I lawr â'r goludog!").
 
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae [[Gildas]] yn cyhuddo'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] o fod yn Belagiad. Yn ôl ''Buchedd Dewi'', llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd [[Dewi Sant]], cynhaliwyd [[synod]] [[Llanddewi Brefi]] yn y 6ed ganrif, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny.
==Gweler hefyd==
* [[Y Brython Sisilaidd]]
 
 
[[Categori:Genedigaethau'r 350au]]
7,435

golygiad