Yr ocwlt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 5:
Ocwltiaeth yw'r astudiaeth o ddoethineb ocwlt neu guddiedig. I'r ocwltydd yr astudiaeth am y "Gwir" yw ystyr yr enw, "gwir" dyfnach sy'n bodoli islaw'r arwyneb. Gellir cynnwys pynciau fel [[Dewiniaeth (ocwlt)|dewiniaeth]], [[Canfyddiad Synhwyrol Ychwanegol|canfyddiad synhwyrol ychwanegol]] (galluoedd seicig), [[Astroleg|astroleg]], [[Ysbrydegaeth|ysbrydegaeth]], [[Rhifoleg|rhifoleg]], a [[Breuddwydio eglur| breuddwydio eglur]]. Yn aml mae yna elfennau crefyddol i'r astudiaethau a chredau hyn, ac mae llawer o ocwltwyr yn proffesu dilyn [[Crefydd|crefyddau]] fel [[Cristnogaeth]], [[Iddewiaeth]], [[Paganiaeth]], [[Hindŵaeth]], [[Bwdhaeth]] neu [[Islam]].
 
Mae'r gair "ocwlt" yn derm rhywogaethol, am ei bod yn cynnwys bron â phopethbopeth sydd ddim yn cael ei hawlio gan y crefyddau mawr a hefyd llawer o bethau sydd yn perthyn iddynt. Mae hyd yn oed y [[Cabbala]] yn cael ei ystyried yn astudiaeth ocwlt, efallai am ei boblogrwydd ymhlith dewiniaid [[Ewrop]].
 
Mewn termau eang, nid yw mewnwelediad uniongyrchol na chanfyddiad o'r ocwlt yn cynnwys mynediad i ffeithiau mesuradwy, eithr fe'i cyrhaeddir trwy'r meddwl neu'r ysbryd. Gallai'r term cyfeirio at hyfforddiant meddyliol, seicolegol neu ysbrydol. Serch hynny mae llawer o ocwltwyr hefyd yn astudio [[Gwyddoniaeth|gwyddoniaeth]], rhai am eu bod yn gweld gwyddoniaeth fel cangen o [[Alcemeg]] a rhai yn defnyddio [[Ffiseg Cwantwm|ffiseg cwantwm]] fel esboniad gwyddonol ar gyfer hud.