Altneuland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
B Manion
Llinell 6:
Y dyfyniad enwog o'r llyfr yw:
: ''Wenn ihr wollt, ist es kein Märchen'' - "Gyda'ch ewyllys nid yw'n freuddwyd"
 
 
==Stori==
[[Delwedd:Herzl22.jpg|bawd|Theodor Herzl]]
Mae'r nofel yn adrodd hanes Friedrich Löwenberg, deallusyn a chyfreithwir ifanc Iddewig yn Fienna sydd wedi blino â bywyd ffals, llesg Ewrop ac yn penderfynnu ymuno ag uchelwr Prwsiaidd Americanaidd o'r enw Kingscourt sy'n edrych am gwmni gydag ef (gyda'r holl dreuliau wedi eu talu) iddo ymddeol i ynys o bellennig y Môr Tawel (fe'i crybwyllir yn benodol fel rhan o'r [[Ynysoedd Cook]], ger Rarotonga) ym 1902. Mae Löwenberg yn gwerthu ei eiddo ac yn rhoi hynny o arian sydd ganddo yn gardod i Iddew ifanc dlawd, David Littwak a gwrddodd mewn caffe.
 
Wrth deithio i'r Dwyrain mae Löwenberg a Kingscourt yn galw ym mhorthladd [[Jaffa]] ym [[Palesteina|Mhalesteina]], oedd ar y pryd yn rhan o [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] (ac fel gwnaeth Herzl ei hun yn 1898). Maent yn canfod Palesteina yn wlad diffrwyth, dlawd, fel y gwnaeth i Herzl yn ystod ei ymweliad.
 
Mae Löwenberg a Kingscourt yn treulio'r ugain mlynedd ganlynol ar yr ynys, yn fwriadol wedi eu dad-gysylltu oddi wrth wareiddiad. Wrth ddychwelyd i'r Gorllewin maent, unwaith eto'n galw ym Mhalesteina a hynny am fod camlas newydd wedi ei hagor drwyddi gan danseilio pwysigrwydd [[Camlas Suez]]. Mae hi bellach yn 1923 ac maent yn canfod ym Mhalesteina gwlad wedi'i drawsnewid yn sylweddol.
 
Mae gwladwriaeth Iddewig, a enwir yn swyddogol y "Gymdeithas Newydd", wedi codi ers i Iddewon Ewrop ail-ddarganfod ac ail-fywio yn eu 'Altneuland' ("hen wlad newydd"), gan adennill eu hunanbarch eu hunain yn eu tir ei hunain, Israel. Yn y wlad, y mae ei Löwenberg yn bwrw fewn i hen gydnabyddwyr o Fienna, megis Littwak y cardotyn. Maent, fel gweddill y trigolion bellach yn ffyniannus ac yn boblogaidd, yn ymfalchïo mewn diwydiant cydweithredol ffyniannus yn seiliedig ar dechnoleg ddiweddaraf, ac mae'n gartref i gymdeithas fodern, rydd a chosmopolitan. Mae gan yr Arabiaid hawliau cyfartal llawn gydag Iddewon, gyda pheiriannydd Arabaidd ymysg arweinwyr y Gymdeithas Newydd, ac mae'r rhan fwyaf o fasnachwyr yn y wlad yn Armeniaid, Groegiaid ac aelodau o grwpiau ethnig eraill. Mae'r deuawd yn cyrraedd adeg ymgyrch etholiad cyffredinol, lle mae rabbi ffosiynol yn sefydlu llwyfan gwleidyddol yn dadlau bod y wlad yn perthyn i Iddewon yn unig ac yn gofyn i ddinasyddion anew Iddig gael eu diddymu o'u hawliau pleidleisio, ond yn cael eu trechu yn y pen draw.
Llinell 54 ⟶ 53:
O ran iaith y Gymdeiths Newydd. Mae Herzl yn cydnabod y bydd yr Iddewon yn siarad Almaeneg, Hebraeg neu Iddeweg a'r gymdeithas yn aml-ieithog ond, nid yw'n glir beth yw'r brif iaith. Mae'r Gymdeithas yn cadw at arferion a 'safonnau' bwrgais dosbarth canol Ewropeaidd gan fynychu'r opera a'r theatr yn gwisgo menyg gwynion i'r opera, fel nodir ganddo.
 
Nid yw crefydd yn chwarae rôl arbennig o flaenllaw yn Hen Wlad Newydd. Er bod Herzl yn gadael y Deml yn Jerwsalem yn cael ei hailadeiladu nid oes fawr o drafod ar y pwnc. Ar wahân i'r deml, ceir [[Synagog|synagogausynagog]]au, eglwysi a [[Mosg|mosgiaumosg]]iau, ac yn y porthladdoedd mawrion hefyd temlau Bwdhaidd a Hindŵaidd. Bydd y Twrc, Reschid Bey yn cymryd rhan yn seremoni Seder yn Littwaks. Ceir cyfeirad bychan i rôl rabbi gwrth-Seionistaidd a gwrth-Cymdeithas Newydd, sy'n gydnabyddiaeth o'r gwrthwynebiad oedd o du nifer o'r gymuned Iddewig Uniongred i sefydlu gwladfa yn Israel.
 
==''Tel Aviv''==
Llinell 60 ⟶ 59:
 
==Dylanwad ar Gymru==
Mae'n nofel [[dyfodoliaeth]] yma wedi bod yn sail ac ysbrydoliaeth i nofel wleidyddol genedlaetholaidd, ''[[Wythnos yng Nghymru Fydd]]'' gan [[Islwyn Ffowc Elis]]. Ceisiodd Elis bortreadu Cymru y dyfodol iwtopaidd a hefyd Cymru distopiaidd. Fel Herzl, bwriad y nofel oedd hyrwyddo agenda wleidyddol, sef creu gwladwriaeth annibynnol Gymraeg ei hiaith.
 
Chwaraeir ar ystyr y teitl, '[[Hen Wlad Newydd]]' yn llyfr [[Judith Maro]], Iddewes a symudodd i Gymru yn 1947 wedi iddi fod yn rhan o frwydr annibyniaeth y wlad. Yn y llyfr maen'n cynnig awgrymiadau ar adeiladu y mudiad cenedlaethol yng Nghymru ar sail llwyddiant yr Iddewon yn Israel.<ref>https://www.independent.co.uk/news/obituaries/judith-maro-writer-and-jewish-patriot-who-fought-with-haganah-in-palestine-6272185.html</ref>