Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brechdan"

Lleihawyd o 27 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
Manion
(Gwallau teipio)
B (Manion)
[[Delwedd:BLT sandwich on toast.jpg|Brechdan bacwn, letys a thomato|bawd]]
Mae '''brechdan''' yn fwyd y gellir ei fwyta heb orfod aros am bryd mwy ffurfiol. Gall yr enw gyfeirio at naill ai tafell o [[bara|fara]] neu nifer o dafelli gyda bwyd mwy blasus rhyngddynt. Gellir sôn am ''frechdan'' i olygu sleisen/tafell o fara menyn blaen. Os taenir rhywbeth ar frechdan blaen, cyfeirir at ''frechdan jam'', ''brechdan fêl'', ''brechdan [[Marmite]]'' ac ati. Gellir defnyddio tafelli o dorth fara brown neu wyn.
 
==Etymoleg==
Er i'r Saeson honni i'r Iarll Sandwich ddyfeisio'r frechdan, mae iddo hanes llawer hŷn, yn sicr yn y Gymraeg.
 
Yn ôl [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] daw'r gair "brechdan" o'r gair [[Gwyddeleg|Wyddeleg]], ''brechtán'' yn golygu menyn neu saim ayyb.
 
Daw'r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf i'r gair o tua 1400;
 
==Defnydd o'r Brechdan==
Y defnydd mwyaf cyffredin o'r gair, fodd bynnag, yn cyfeirio at ddwy dafell o fara, yn frown neu'n wyn, (yn arferol wedi cael [[menyn]] neu daeniad arall wedi taenu arnynt) gyda bwyd blasus rhngddynt. Ymysg y llenwadau mwyaf poblogaidd mai ham, wŷ wedi stwnsio gyda [[mayonnaise]], [[eog]], [[caws]] gyda (neu heb) [[siytni]]/[[catwad]], [[salad]] plaen, [[corgimwch|corgimychiaid]], neu diwna. Dros y blynyddoedd mae mathau mwy egsotig wedi dod i ffasiwn, megis [[cyw iar coroni]], [[cyw tikka]] a llysiau rhôst. Mae rhai pobl yn hoffi brechdan fwy melys gyda jam, mêl, [[Menyn cnau mwnci|menyn cnau mwnci]] neu fanana wedi'i stwnsio ymysg y ffefrynnau. Mae rhai mannau bwyta'n ychwanegu trydedd tafell i'r frechdan ac ail lenwad, a elwir y frechdan wedyn yn ''frechdan glwb'' neu ''frechdan ddwbl''.
 
Wedi gwneud y frechdan, arferir ei thorri ar ei hanner o gornel i gornel unwaith neu ddwy, ac ystyrir ei fod yn fwy crand torri'r crystiau i ffwrdd.
 
Yn gynyddol mae pobl yn defnyddio torthau gyda hadau ac ati ynddynt neu fathau mwy ecsotig o fara, ''baguette'' neu [[bara pita]]. Mae'n arferol erbyn hyn creu ''brechdanau wedi'u tostio'' gyda rhywbeth fel caws neu facwn y tu mewn iddynt.
 
Mae brechdan yn ffurfio rhan gyntaf hanfodol y [[te pnawn]] sydd yn ffasiynol erbyn hyn, ynghyd â [[sgon|sgons]]s a jam, cacennau bach a phaned o de.
 
Y frechdanau cyntaf oedd tafelli o gig eidion wedi'i halltu rhwng dwy dafell o dôst. Dywedir mai 4ydd Iarll Sandwich a grëodd y frechdan gyntaf er mwyn cario ymlaen gyda'i ddyletswyddau milwrol wrth fwyta, a dyna a roddodd yr enw Saesneg i'r saig - er mai rhai yn honni mai bwyta rhywbeth nad oedd yn ei orfodi i adael bwrdd gamblo oedd ei arfer - a phobl eraill wedyn yn ordro "run peth ag y mae Iarll Sandwich yn ei fwyta"!
452,433

golygiad