Capel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
B Manion |
||
Llinell 7:
==Adeiladwaith capeli==
*Y Gwaith Coed
Math o goed:<
Beth oedd tarddiad coed y to a choed y dodrefn mewn capeli? I ble daeth y deunydd crai? Oedd y coed yn wahanol mewn gwahanol enwadau. Dyma nodyn sy'n codi'r cwestiynau a chyflwyno'r pwnc, gan Wil Williams:
:''Pitch Pine'' (pinwydden pyg): Dyma lun Ronnie Jeffers<ref>
<
Ffawydd Melyn:
Roedd y diweddar Arfon Prichard,
Garndolbenmaen wastad yn cyfeirio at y "pitch pein" fel "ffawydd melyn": "ew, hen bren da. Eith y pry' ddim ar ei gyfyl" meddai.{{citation needed|date=Mawrth 2019}}<
''Fagus sylvatica'' ffawydden, ffawydd
''Pinus palustris'' ffawydden felen, ffawydd melyn
*Economi ac ymarferoldeb
A bwrw mai pinwydd pyg oedd prif ddeunydd adeiladwaith pren capeli a'u dodrefn, beth oedd y broses economaidd ac ymarferol rhwng de-ddwyrain yr UD a safle'r capel; o feddiannu'r coed ar eu traed yn ne Carolina, trwy eu cwympo a'u cludo, i'r cyrraedd a'u trin?
:''Pinus palustris'' ydi ''pitch pine'' i ni, ond ''Pinus rigido'' ydi ''pitch pine'' yn Wikipedia, hefo ''Pinus palustris'' yn cael ei alw yn ''longleafe pine''. Tybad faint sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd i neud hefo mewnforio pitch pine i adeiladu eu capeli yn ystod y ddeunawfed ganrif? Yn ''Ships and Seamen of Anglesey 1558 - 1918'' gan Aled Eames, ceir hanes y teulu Davies, Porthaethwy, yn mynd a pobl a llechi i Ogledd America a dwad a llwythi o goed yn ôl. Buasa'n ddiddorol cael gwybod os mai ''pitch pine'' oedd y llwythi coed hynny.
<
Soniodd 'Wyn Pen Lon', Niwbwrch, (saer da a gafodd ei brentisio gyda chriw cynnal y chadw Stad Bodorgan, cyn mentro dechrau busnes llwyddianus fel saer hunan gyflogedig) fel hyn:
:"Cafodd Plas Bodorgan ei ail adeiladu rhwng 1780 a 1784 - dechra y cyfnod o adeiladu capeli ? Roedd Wyn yn deallt i'r coed a ddefnyddwyd i adeiladu y plasdy wedi eu nofio ar hyd y Fenai, heibio Llanddwyn ac i aber Afon Cefni, o Borthaethwy i Bodorgan! Coed oedd rhain wedi eu mewnforio o Ogledd America i Borthaethwy gan y teulu Davies mae'n debyg".<ref>Wil Williams (cys. pers. a D.W. Williams (1986): Canu Mawl i Deulu Bodorgan (llyfryn i nodi'r achlysur uchod gan y WEA)</ref>
Llinell 31:
*Y Gwaith Cerrig
Dyma ddisgrifiad cyfoes o'r gwaith gwirfoddol caled a wnaethpwyd i godi un capel yn Nhywyn Meirionnydd (boed nodweddiadol neu beidio):
<
:"Pan benderfynnodd henaduriaid Eglwys Bethel, Tywyn adeiladu capel mwy ei faint yn 1871 "darfu i ffermwyr a chertwyr yr Eglwys gario y defnyddiau at ei adeiladu yn rhad ..... ac fe gododd Mr John Daniel, Caethle, a'i was yn fore fore er mwyn cael mynd â'r llwyth cyntaf at y deml newydd, ac aed i lan y môr am lwyth o gerrig ...... gan fod y llwyth yn drwm torrodd echel y drol a methwyd myned gam ymhellach, a daeth Mr Rowland Edward, y Vaenol, a'i lwyth heibio iddynt"<ref name=":6">Jones, Meredith, 1929, Ychydig o Hanes Eglwys Bethel, Towyn. cyh. J. Wynne Williams</ref>[https://cy.wikipedia.org/wiki/Dyddiadur_Edward_Edwards,_Tywyn,_Meirionnydd?wprov=sfti1]
Llinell 49:
==Gweler hefyd==
* [[Rhestr Capeli Cymru]]
==Cyfeiriadau==▼
[[Categori:Capeli| ]]
[[Categori:Creiriau sanctaidd Cristnogol]]
▲==Cyfeiriadau==
|