Dafad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr using AWB
B Manion
Llinell 21:
 
==Hanes y ddafad==
Daeth y defaid cyntaf i Gymru gyda'r mewnfudwyr [[Oes Newydd y Cerrig]] (neu Neolithig), 4 - 3,000CC. Pori gan ddefaid, gwartheg a geifr yn dilyn clirio coed o'r cyfnod hwn ymlaen gadwodd dirlun y rhan helaethaf o ucheldiroedd Cymru yn agored i'n dyddiau ni. Datblygodd y symudiad drawstrefol rhwng hafod a hendre erbyn yr Oes Haearn a pharhaodd hyd yr 1870au yn Eryri.
 
Arloeswyd ffermio defaid ar raddfa fawr gan fynachlogydd y Sistersiaid yn yr [[Oesoedd Canol]] a chododd diwydiant gwehyddu cartref o bwys yng Nghymru o ganlyniad. Serch hynny eilradd oedd cadw defaid o gymharu â gwartheg hyd chwyldro amaethyddol y [[18g|18]] - [[19g]], pan gaewyd [[tir comin|tiroedd comin]] ar raddfa fawr a sefydlu gyrroedd enfawr o ddefaid ar gynefinoedd mynyddig.
 
Erbyn dechrau'r [[19g]] roedd [[y Drenewydd]] a [[Dolgellau]] yn ganolfannau [[gwehyddu]] o bwys, a'r [[Y Bala|Bala]] ar gyfer [[gwau]], ond wedi dyfodiad y rheilffyrdd bu dirywiad yn wyneb cystadleuaeth allanol. Ar y llaw arall ffynnodd melinau gwlân Dyffryn Teifi â fanteisiodd ar y rheilffordd i gyrraedd marchnad boblog cymoedd diwydiannol De Cymru. Erbyn heddiw dim ond nifer fechan o felinau a erys, yn cynhyrchu brethynnau, gwlanenni a charthenni patrymog. Allforir llawer o wlân Cymreig i wneud carpedi, er i'r farchnad honno leihau yn hanner ola'r [[20g]] yn wyneb cystadleuaeth o ddefnyddiau artiffisial.
 
Cynnyrch pwysicaf y diadelloedd Cymreig yw cig, gwlân ac anifeiliaid stôr i'w gwerthu ar gyfer eu pesgi neu i'w croesi â hyrddod o fridiau llawr gwlad. Enillodd [[cig oen Cymru]] fri rhyngwladol am ei safon a'i flas. Roedd 11.2 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru ym Mefefin 2000.
 
==Y Ddafad Laeth==
Pwy sy’n cofio gweld neu glywed am glychau defaid, neu gaws defaid, yng Nghymru? Dyma ddau gofnod perthnasol: 24 Ion 1798 (Aloxden, Cumbria):
 
:''Many stories are told about Catherine Jones'' [gwraig Thomas Jones, fferm Gwninger, Niwbwrch]...''It is said that in the summer after selling the lambs she milked the ewes, and made butter (nearly white in colour) for use on the farm, so that she could sell all the butter made from the cows' milk''<ref>Trafodion yr Ang. Ant. Soc. & Field Club 1956</ref>
Llinell 38:
#Bridiau Canolig Cymreig / y Gororau - mwy o faint na'r bridiau mynydd, e.e. defaid Kerry a Clun ar y Gororau a Defaid Llŷn a Llanwenog yn rhannau gorllewinol Cymru.
#Bridiau croesi - hyrddod llawr gwlad a bridiau canolig yn bennaf. Bridiau poblogaidd llawr gwlad yng Nghymru yw'r Blue faced a Border Leicester, Suffolk, Dorset Down, a.y.b.. Fe'u croesir â'r defaid mynydd i gynhyrchu ŵyn hanner brîd sy'n cyfuno safon uchel cig y bridiau mynydd â maint a graddfa tyfiant uwch y bridiau llawr gwlad / canolig.
#Croesiadau - ers canol yr [[20g]] datblygodd y Ddafad Hanner Brîd Gymreig (o'r Ddafad fynydd x Border Leicester) yn frîd newydd. Hefyd y Ddafad Groesryw Gymreig neu "Welsh Mule" (Dafad Fynydd x Blue faced Leicester). Fe'u defnyddir ar dir isel i'w croesi ymhellach â hwrdd brîd llawr gwlad i gynhyrchu ŵyn chwarter brîd.
 
* [[y ddafad fynydd Gymreig]]
Llinell 67:
Oherwydd amrywiaeth tir, a nifer y bridiau a chroesiadau posib, ceir nifer o wahanol systemau cynhyrchu.
Cynhyrcha'r diadelloedd mynydd wlân, ŵyn stôr a thewion ac anifeiliaid magu. Pesgir y rhan fwyaf o'r ŵyn ar gyfer eu cig ond didolir eraill i'w cadw neu eu gwerthu ar gyfer magu. Arbeniga rhai ffermwyr mewn magu defaid a hyrddod pedigri a cheir prisiau uchel am y goreuon mewn arwerthiannau arbennig.
 
Wedi ŵyna am tua pedwar tymor gwerthir y mamogiaid mynydd hŷn i ffermydd ar dir mwy ffafriol lle'u croesir â hyrddod bridiau croesi i gynhyrchu ŵyn hanner brîd mwy o faint. Bydd angen adnewyddu chwarter y ddiadell yn flynyddol felly â hesbinod ifainc a fagwyd ar gynefin y fferm.
 
Ar y ffermydd mynydd cedwir y defaid ar borfeydd mynydd dros yr haf, un ai ar dir agored a rennir yn gyffredin â ffermwyr eraill neu ar dir sy'n benodol i'r fferm. Yn ychwanegol bydd tir ffridd sylweddol islaw'r wal fynydd lle cedwir y mamogiaid am gyfnod cyn dod â hwy i dir gwell neu dan do i ŵyna yn y gwanwyn. Ceidw eraill y mamogiaid ar dir gwaelod y fferm, neu eu gyrru i fferm arall ar dir gwell. Gyrrir y defaid ifainc (hesbinod) i ffermydd tir gwaelod, weithiau gryn bellter i ffwrdd dros y gaeaf - rhain yw y defaid cadw neu ddefaid tac. Tyfir gwair neu silwair yn borthiant gaeaf i'r mamogiaid a rhoir ychydig ddwysfwyd iddynt tra byddant yn feichiog.