Hiwgenotiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
B Manion
Llinell 5:
Roedd eu gwreiddiau yn athroniaeth Brotestanaidd [[Martin Luther]] ac yna Calvin. Ysytirir bod hyd at 10% (2 filiwn) o boblogaeth Ffrainc yn Hiwgonotiaid hyd at [[Cyflafan Sant Bartholomew]] yn 1572. Roeddynt yn trigo gan fwyaf yn rhannau deheuol a gorllewinol Ffrainc. Wrth i Hiwgenotiaid arddel eu dylanwad a ffydd yn fwy agored tyfodd atgasedd iddynt gan y Catholigion. Cafwyd cyfres o wrthdaro a rhyfeloedd crefyddol i'w dilyn, sef [[Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc]], o 1562 i 1598. Arweinwiyd yr Hiwgenotiaid gan Jeanne o Albret, ac yna ei mab, Harri o Nafar (Navarre), a ddaeth maes o law yn Frenin Harri IV o Ffrainc (newidiodd ei grefydd i Gatholigiaeth er mwyn dod yn Frenin). Daeth y rhyfeloedd i ben gyda Edict Nantes ym mis Ebrill 1598 gan [[Harri IV, brenin Ffrainc]], pan roddwyd ymreolaeth i'r Hiwgenotiaid ym maes crefydd, gwleidyddiaeth, a milwrol.
 
Serch hynny, bu gwrthryfeliadau gan yr Huguenot yn yr 1620au yn ysgogi diddymu eu breintiau gwleidyddol a milwrol. Cadwyd eu hawliau crefyddol o dan Edict of Nantes hyd nes y teyrnasiad [[Louis XIV, brenin Ffrainc|Louis XIV]]. Cynyddwyd yr erledigaeth ar Brotestaniaeth yn raddol nes iddo gyhoeddi y Edict Fontainebleau (1685), gan ddod i ben unrhyw gydnabyddiaeth gyfreithiol o Brotestaniaeth yn Ffrainc a gorfodi'r Hiwgenotiaid naill ai i droi'n Gatholigion neu ffoi. Honnodd Louis XIV i boblogaeth Hiwgonotiaid Ffrainc gwympo o dros 800,000 o unigolion i 1,000 neu 1,500 o unigolion; goramcangyfrif wrth reswm, ond bu cwymp enfawr o frawychus. Serch hynny, roedd lleiafrif bychan o Huguenots yn parhau ac yn wynebu erledigaeth barhaus o dan [[Louis XV, brenin Ffrainc|Louis VX]]. Erbyn marwolaeth Louis XV ym 1774, cafodd Calfiniaeth Ffrengig ei chwalu'n llwyr. Daeth yr erledigaeth ar Brotestaniaid i ben yn swyddogol gydag Edict Versailles, Llofnodwyd gan [[Louis XVI, brenin Ffrainc|Louis XVI]] yn 1787. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda'r Datganiad o Hawliau Dyn a Dinesyddiaeth 1789, enillodd Protestaniaid Hawliau cyfartal i ddinasyddion.
 
{| class="wikitable floatleft"
Llinell 41:
==Etymoleg==
[[Delwedd:Protestant France.svg|bawd|Ardaloedd a reolwyd neu dan ymgypris Hiwgenitiaid mewn porffor a leilac ar fap gyfoes o Ffrainc]]
Nid oes sicrwydd i darddiad y term 'Hiwgonotiaid', er, i'r term yn wreiddiol fod yn un watwarus. Ceir sawl awgrym dros yr enw.
 
Gall fod yn lysenw sy'n cyfuno cyfeiriad at y gwleidyddydd o'r Swistir, Besançon Hugues (bu farw 1532) a hefyd natur grefyddol-wleidyddol gymleth y Swistir ar y pryd lle ceir gair mwys ar yr enw ''Hugues'' o gyfeiriad y gair [[Iseldireg]] ''Huisgenoten'' (yn llythrennol, 'cyd-letywyr'), sy'n cyfeiriad hefyd at y gair Almaene ''Eidgenosse'' (''Conffederasiwnwyr'') hynny yw, dinesydd un o daleithiau Conffederasiwn y Swistir.<ref name="EB11">''Encyclopædia Britannica'', 11th ed, Frank Puaux, ''Huguenot''</ref>
 
==Cymru==