Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Incwnabwlwm"

No change in size ,  blwyddyn yn ôl
B
Manion
B (Manion)
Trwy gamddealltwriaeth y priodolwyd y term i [[Bernhard von Mallinckrodt]] (1591–1664) wedi iddo ddefnyddio'r union eiriau a ddefnyddiodd Hadrianus Iunius mewn pamffled a ysgrifennodd ac a argraffwyd yn 1640.<ref>{{Cite journal|url=https://hal.archives-ouvertes.fr/hal-00791398v2|title=Le baptême inconscient de l'incunable: non pas 1640 mais 1569 au plus tard|last=Sordet|first=Yann|journal=Gutenberg Jahrbuch|year=2009|volume=84|pages=102–105|language=French}}</ref> Ar ddiwedd y 17g y daeth y term incwnabwla i ddynodi'r llyfrau argraffiedig eu hunain, heb gynnwys llawysgrifau.
 
Mae'r enghreifftiau enwocaf o incwnabwla yn cynnwys dau o [[Mainz]], sef [[Beibl Gutenberg]] (1455) a ''[[Peregrinatio in terram sanctam]]'' (1486), a argraffwyd ac a ddarluniwyd gan [[Erhard Reuwich]]; ''[[Cronicl Nuremberg]]'' a ysgrifennwyd gan [[Hartmann Schedel]] ac a argraffwyd gan [[Anton Koberger]] yn 1493; a'r ''[[Hypnerotomachia Poliphili]]'' a argraffwyd gan [[Aldus Manutius]] gyda darluniau gan arlunydd anhysbys.
 
Ymhlith argraffwyr incwnabwla eraill roedd [[Günther Zainer]] o [[Augsburg]], [[Johannes Mentelin]] a [[Heinrich Eggestein]] o [[Strasbwrg]], [[Heinrich Gran]] o [[Haguenau]] a [[William Caxton]] o [[Brugge]] a [[Llundain]]. Yr incwnabwlwm cyntaf i gynnwys [[torluniau pren]] oedd ''[[Der Edelstein]] ''gan [[Ulrich Boner]], a argraffwyd gan [[Albrecht Pfister]] yn Bamberg yn 1461.<ref>Daniel De Simone (ed), ''A Heavenly Craft: the Woodcut in Early Printed Books,'' New York, 2004, p. 48.</ref>
== Cyfeirnodau ==
{{Reflist|30em}}
 
[[Categori:Llyfrau yn ôl math]]
[[Categori:Ysgrifennu]]
439,294

golygiad