Lleuad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr using AWB
B Manion
Llinell 19:
 
*Lleuad Coch
Llanrwst, bore Gwener, Ionawr 21, 2011<ref>Bletin Llên Natur rhifyn 37[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn37.pdf Bletin Llên Natur rhifyn 37]</ref>
 
:Bore heulog tawel ond oer iawn gyda barrug trwm. Lleuad oren lawn dros Llanddwyn eto ben bore cyn iddi "fachlud" yn fuan wedyn. Cofnod DB
 
Dyma gafodd Twm Elias am leuad coch ar gyfer ei gyfrol “Am y Tywydd”:<ref>Twm Elias, Am y Tywydd</ref>
Llinell 41:
Mae hi'n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H. y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu dod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.
 
Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid [[iâr|ieir]] i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei "chelder" (Morgannwg).
 
Adeg gwendid neu "dywyllwch" y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear, pigo ffrwythau, tynnu llysiau, medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn). Casglwyd ffrwythau gan y credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt.
 
Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn "Leuad Babis".
 
===Hen enwau===
Bu'r lleuad llawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni a cheir enwau arni, fel "Hen Lantar y Plwy", "Canwyll y Plwy", "y Lanter Fawr" a "Haul Tomos Jôs" ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd ac [[eisteddfod]]au lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad llawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos.
 
Cawsai y lleuad llawn cynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei alw'n "Lleuad Fedi" neu "Leuad y Cynheuaf", pryd y ceid y "Naw Nos Olau". Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar – bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau [[ŷd]] i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h. y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.
 
===Lwc, anlwc a darogan===
Dros y canrifoedd, a hyd yn oed yn 2018, cred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu drwy ganghennau coed am fod y gwydr, neu'r canghennau'n atal, neu "ddwyn", lwc dda cynnydd y lleuad. Ac mae rhai yn dangos eu harian i'r lleuad newydd neu'n troi'r arian drosodd yn eu poced – er mwyn iddo gynyddu efo'r lleuad?
 
I sicrhau lwc dda arferai pobl [[Ceredigion]] godi eu hetiau'n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai'r merched yn bowio iddi. Mae'n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta'r flwyddyn fe gaiff ei wireddu. Yn [[Sir Gaernarfon]], pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i'r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno.