Midas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B Manion
Llinell 1:
[[Delwedd:Midas_gold2.jpg|bawd|Yn fersiwn Nathaniel Hawthorne o fyth y Brenin Midas, mae Midas yn troi ei ferch ei hun yn aur wedi iddo ei chyffwrdd (darlun gan Walter Crane yn argraffiad 1893)]]
'''Midas''' (Groeg: Μίδας) yw enw o leiaf tri aelod o linach brenhinol [[Phrygia]].
 
Y '''Brenin Midas''' enwocaf yw'r un sy'n cael ei adnabod ym [[Mytholeg Roeg|mytholeg Roeg]] am ei allu i droi popeth roedd yn ei gyffwrdd i mewn i [[aur]]. Mae'n debyg bod dinas Phrygaidd Midaeum wedi'i henwi ar ôl y Midas hwn, a hwn hefyd oedd y Midas a sefydlodd [[Ankara]], yn ôl [[Pausanias]].<ref>[[Pausanias (geographer)|Pausanias]] 1.4.5.</ref> Yn ôl [[Aristoteles]], mae'r chwedl yn honni i Midas farw o newyn o ganlyniad i'w "weddi ofer" am y cyffyrddiad euraid.<ref>Aristotle, Politics, 1.1257b.</ref> Roedd y chwedlau yn rhoi hanes y Midas hwn a'i dad Gordias, sy'n cael ei gydnabod am sefydlu'r brifddinas Phrygaidd Gordiwm a chlymu'r Cwlwm Gordaidd. Dywedir eu bod yn byw rhywbryd yn ystod yr 2il fileniwm CC, ymhell cyn [[Rhyfel Caerdroea]]. Serch hynny, nid yw [[Homeros]] yn crybwyll Midas na Gordias, ond mae'n cyfeirio at ddau frenun Phrygaidd arall, Mygdon ac Otreus.
 
Roedd Brenin Midas arall yn teyrnasu yn Phrygia yn hwyr yn yr 8g CC hyd at ysbeilio Gordiwm gan y Cimmeriaid, pan dywedir iddo gymryd ei fywyd ei hun. Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn credu mai'r Midas hwn yw'r un person â ''Mita'', brenin y Mushki mewn testunau Assyraidd, a fu'n rhyfel ag [[Assyria]] a'r taleithiau Anatolaidd yn yr un cyfnod.<ref>Gweler er enghraifft Encyclopædia Britannica. Hefyd, Lynn E. Roller, "The Legend of Midas", ''Classical Antiquity,'' '''2'''2 (October 1983):299-313.</ref>