Mosfellsbær: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: yn Ranbarth → yn rhanbarth using AWB
B Manion
Llinell 3:
Mae '''Mosfellsbær''' yn dref yn ne orllewin [[Gwlad yr Iâ]] sy'n gorwedd oddeutu {{Convert|12|km|mi|0|abbr=off}} i'r dwyrain o'r brifddinas, [[Reykjavík]].
 
Mae'r dref ond rhyw siwrnau 15 munud yn y car o ganol dinas Reykjavík ac mae'n un o'r saith bwrdeistref sydd o fewn yr ardal a elwir yn swyddogol yn rhanbarth y Brifddinas, neu [[Reykjavík Fawr]]. Ceir sawl dosbarth o fewn tref Mosfellsbær ei hun, gan gynnwys cilfach Leiruvogur sy'n rhan o fjord Kollafjörður. Ceir aber i dair afon yn y cilfach; Leirvogsá, Kaldakvísl a Varmá. Poblogaeth y dref yw 9,075 a maint y dref yw 185km185 km sgwâr.
 
Mae gan Mosfellsbær adnoddau hamdden ar gyfer twristiaid a phreswylwyr. Gelwir y dref yn "y dref werdd" gan y gwneir defnydd o'r adnoddau thermal gan gynnwys adeiladu tai gwydr yn y bwrdeistref. Ers 1933 mae'r bwrdeistref wedi cyflenwi ardal y brifddinas gyda dŵr poeth naturiol ar gyfer gwresogi tai, pyllau nofio ayyb. Mae'r cefn gwlad o gwmpas y dref yn cynnwys mynyddoedd sy'n addas ar gyfer cerdded, mynydda, [[sgio]] a physgota am [[brithyll|frithyll]] a'r [[torgoch]] (brithyll melyn) yn y llynoedd bychain.
 
Gwnaed yr enillydd Gwobr Nobel am lenyddiaeth yn 1955, [[Halldór Laxness]] (1902-1998) yn ddinesydd anrhydeddus o'r dref. Bu'n byw yno gydol ei oes ac fe seiliwyd nifer o'i brofiadau a chymderiadau yn ei nofelau ar ei brofiadau yn y dref.
Llinell 32:
 
== Chwaraeon ==
Mae'r campws chwaraeon yn Varmá yn un o'r gorau yng Ngwlad yr Iâ ac yn cynnwys pwll nofio ac adnoddau chwaraeon i oedolion a phlant.
 
Sefydlwyd y clwb chwaraeon lleol, Ungmennafélagið Afturelding yn 1909. Mae gan y clwb oddeutu 3,800 aelod. Lleolir Clwb Golff Kjölur y tu allan i'r dref yn Hlíðar ger y môr.