Mynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr using AWB
B Manion
Llinell 11:
Fe ddywedir bod pobl y mynydd-diroedd yn wahanol mewn sawl ffordd i drigolion llawr gwlad. Dyma safbwynt yr Athro R Alun Roberts yn ei Ddarlith Radio i'r BBC: “Yr Elfen Fugeiliol ym Mywyd Cymru” (1968) ac mae'n werth ei darllen neu ei hail-ddarllen. Ynddi dadleua bod yr economi gydweithredol a symudol oedd yn gysylltiedig â'r hen gyfundrefn Hafod a Hendre, a'r pwyslai oddiar hynny ar fagu a marchnata da byw, wedi dylanwadu ar ein diwylliant a'n ffordd o edrych ar y byd o'n cwmpas. O ganlyniad, rydym yn fwy ysbrydol ein bryd na phobl y tiroedd gwastad, ac yn hynny o beth yn debycach ein diwylliant i drigolion Norwy, Yr Alpau a'r Pyreneau na'r rhannau eraill o Ewrop sydd y tu allan i'r gwledydd Celtaidd.
 
Boed hynny'n wir neu beidio mae'n amlwg iawn, o edrych ar ein llên gwerin a'n chwedlau ni fel Cymry, a phobloedd eraill yr ucheldiroedd ar draws y byd, fod mynyddoedd wedi chwarae rhan bwysig yn ein datblygiad diwylliannol.
 
===Mynyddoedd Sanctaidd===
Llinell 27:
 
===Gwyddfa Rhita Gawr===
Ystyr “gwyddfa” yw carnedd gladdu ac enw llawn ein mynydd uchaf yw Gwyddfa Rhita Gawr. Fe'i henwyd ar ôl y bwli haerllyg hwnnw geisiodd gipio barf y [[Brenin Arthur]] i'w chynnwys yn y glog farfau a wisgai dros ei ysgwyddau. Fe'i lladdwyd gan Arthur a orchymynodd wedyn y dylsid codi carnedd dros gorff Rhita, oedd braidd yn rhy fawr i'w gladdu. Mor amhoblogaidd oedd yr hen furgyn nes y death cymaint o bobl o bob man efo cymaint o gerrig nes ffurfiodd y garnedd y mynydd a elwir “Yr Wyddfa” hyd heddiw!
 
===Campau Prawf===
Ydy arholiadau yn bethau newydd d'eudwch? Na, oherwydd ar un adeg rhaid oedd i filwyr ifanc a phrentisiaid Derwyddon gwblhau campau arbennig i brofi eu hunnain. Yn ôl traddodiad byddai neidio o un i'r llall rhwng y ddau faen a elwir Adda ac Edda ar gopa Tryfan yn un o'r campau osodid i brofi dewrder llanciau ifanc y fro ac roedd aros nos ar gopa mynydd yn un arall.
 
Dywedir y bydd y sawl a dreulia noson ar gopa [[Cader Idris]] un ai yn farw, yn fardd neu yn wallgo erbyn y bore. Mae'n wir hefyd! Hynny yw, mae siawns dda ichi drengi o oerfel ac mae'n rhaid eich bod un ai yn fardd neu'n wirion i hydnoed meddwl am noswylio yn y fath le beth bynnag!
 
===Ogofau===