Rheol Tintur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
B Manion
Llinell 1:
[[Delwedd:POL Dobrzyca COA.svg|dde|bawd|250px|dde|Arfbais bwrdeistref Dobrzyca, [[Gwlad Pŵyl]], sy'n cymdymffurfio gyda Rheol Tintur - metal ar liw (gwyn ar goch)]]
'''Rheol Tintur''' yw rheol sylfaenol dylunio [[Herodraeth|herodraeth]]. Crynhwyd y rheol gan y Cymro [[Humphrey Lhuyd]] yn 1568 gyda'r dywediad syml: "ni ddylid roi metal ar fetal, na lliw ar liw". Golyga hyn na ddyliau lliwiau heraldaidd ''or'' nac ''argent'' (aur ac arian, neu mewn termau syml, gwyn a melyn) nac un o'r [[lliw|lliwiau]]iau arferol, ''azure'', ''gules'', ''sable'', ''vert'' a ''purpure'' nac enghreifftiau prin eraill, cael eu rhoi ar liw arall. Gellir cael eithriadau i hyn ym maes defnydd o 'ffwr' heraldaidd (h.y. ermine, vair ac amrywiaethau eraill) yn ogystal â "proper" (prif ddelwedd yr arfbais, sy'n cadw'n driw at natur er enghrafft, afal goch ar goeden werdd, ond diffinir hyn gan herald) ond mae'r rhain yn eithriadau i Reol Tintur.
 
==Dylanwad Gyfoes Rheol Tintur==
Dilynir Rheol Tintur hyd heddiw y tu hwnt i faes [[Herodraeth|herodraeth]], ac mae'n wir ar gyfer dyluniad baneri cyfoes. Ail-luniwyd baner Saxe-Weimar-Eisenach er mwyn cydymffurfio gyda'r rheol.<ref>{{cite web|title=Grand Duchy of Saxe-Weimar-Eisenach 1813-1918 (Germany): ''Großherzogtum Sachsen-Weimar-Eisenach''|url=https://fotw.info/flags/de_sn-we.html|accessdate=2018-09-28}}</ref> Mae Rheol Tintur Humphrey Lhuyd yn un dylsai pob dylunydd baner, logo, eicon a symbol fod yn ymwybodol ohono, os nad ei ddilyn.
 
==Gweithred==
Llinell 13:
 
==Rhannau ansylweddol o'r Corff==
Anwybyddir y Rheol, fel arfer, y ar gyfer rhanau bychain, ansylweddol o gorff anifail neu greadur sy'n chwarae rhan fel proper er enghraifft, tafod, cyrn, crafanc neu garn creadur. Gall rhain fod, er enghraifft, yn lew or ar lain azure on ''langued gules'' (llew aur ar lain glas a thafod goch.) os yw'r darnau yma o'r corff yn wahanol i liw'r prif gorff. Hynny yw, ystyrir y lliwiau yma yn atodiad i'r prif ddelwedd. Yn hynny o beth, mae crafangau glas a welir weithiau ar llew goch [[Bathodyn Brenhinol Cymru|fathodyn brenhinol Cymru]] sydd ei hun yn seiliedig ar arfbais [[Llywelyn_ap_GruffuddLlywelyn ap Gruffudd|llys Gwynedd]] yn dderbyniol er ei fod, mewn gwirionedd yn torri Rheol Tintur wrth orwedd ar ben llain werdd hanner waelod arfbais neu faner Cymru.
 
===Crest a Chefnogwyr===
Llinell 30:
 
===Metal ar Fetal===
Un o'r armes à enquérir enwocaf yw arfbais Brenin [[Caersalem]] a ddewiswyd gan Godfrey of Bouillon ac yna ei frawd Baldwin o Boulogne pan wnaethpwyd nhw'n frenhinoedd y ddinas sanctaidd. Mae gan yr arfbais bump croes aur ar lain wen (yn swyddogol, "Argent a Cross potent rhwng pedwar Crosslets Or plaen"). Mae'r defnydd yma o fetal ar fetal i'w weld ar arfbais Brenin Caersalem, Mitr Esgob yn yr arfbais a welir ynghannol [[Baner Andorra|baner Andorra]], ac arfbais sir Nord-Trøndelag yn Norwy (sy'n seilidig ar arfbais Sant Olaf fel y disgrifir yn 'Sagas Snorri'). Ystyrir y ddyfais yma, er yn torri'r Rheol Tintur, yn eithriadau arbennig oherwydd statws arbenig y pwnc.
 
Ceir enghreifftiau eraill o dorri Rheol Titur sef [[baner Cyprus]] lle ceir siap yr ynys mewn melyn ar lain wen. Ac, os bu arfbais Draig Aur ar lian wen gan [[Owain Glyndŵr]] yna, yn ôl Jobbins <ref>t.28 'The Red Dragon: The story of the Welsh flag' (Siôn T. Jobbins, Gwasg y Lolfa, 2016|https://www.ylolfa.com/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag</ref>, byddai hyn hefyd yn torri'r rheol. Er, mae'n dadlau mai anhebygol yn ei farn ef mai aur neu felyn fyddai'r ddraig, ond yn hytrach lliw yn agosach i'r hyn a fuasai'n cael ei alw'n fflamgoch neu oren mewn Cymraeg cyfoes.<ref>t.83 ''The Red Dragon: The story of the Welsh flag'' (Siôn T. Jobbins, Gwasg y Lolfa, 2016)|https://www.ylolfa.com/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag</ref>
Llinell 37:
 
===Lliw ar Liw===
Ceir enghreifftiau o dorri'r Rheol Tintur:
 
:'''[[Baner Albania]]''' lle ceir eryr deu-ben sable ar lain gules. Ond, yn ôl rhai lenorion ar heraldiaeth Canol a Dwyrain Ewrop, ystyrir bod gan sable (du) briodweddau metal a lliw[*] ac nid yw un liw yn unig fel y'i gwelir yng ngorllewin Ewrop.<ref>[[William Dwight Whitney]] & Benjamin Eli Smith (eds.) ''The Century Dictionary and Cyclopedia'', revised ed., volume '''IX''' (New York: The Century Co.) page 6345.</ref> Gwelir felly nad yw cyfuniad o ddu-ar-liw yn anghyffredin. Yn wir, ceir enghraifft o hyn hefyd ar faner Cymru, lle mae'r Ddraig Goch yn aml â fimbriation ddu, sydd yn ei gwneud amlinelliad y ddraig yn gliriach pan fo'n gorwedd ar lain werth, ac yn gweithredu felly fel rhyw fath o fetal.
Llinell 45:
:'''[[Ikurrina|Baner Gwlad y Basg]]''' - mae'r faner yn dilyn dyluniad baner Prydain ond heb y fimbriation gwyn sydd ar Jac yr Undeb. Mae'r groes saltire werdd ar lain goch felly yn torri Rheol Tintur yn amlwg iawn.
 
:'''[[Baner Cymru]]''' - crêd Jobbins fod hanner waelod baner Cymru yn tramgwyddo Rheol Tintur, lliw ar liw.<ref name="ylolfa.com">https://www.ylolfa.com/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag</ref>
 
:'''Baner Draig Aur [[Owain Glyndŵr]]''' - crêd Jobbins, fod baner Draig Aur Glyndŵr a godwyd yn ystor brwydr Twtil yn 1401 yn tramgwyddo'r Rheol Tintur.<ref>https://www. name="ylolfa.com"/products/9781784611354/the-red-dragon-the-story-of-the-welsh-flag</ref>
 
:'''Arwyddlun [[Croeso Cymru]]''' - yn 2016 dadorchuddwyd arwyddlun newydd i gorff twristiaeth Cymru, sef, [[Croeso Cymru]], sy'n rhan o brand cenedlaethol [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]].<ref>https://www.itsnicethat.com/articles/smorgasbord-wales-rebrand-cymru-150317</ref> Mae'r dyluniad yn hyrwyddo'r defnydd o'r ddraig goch ar lain ddu. Gan hynny, mae'n anodd i'w adnabod yn glir o bellter a gellir dadlau ei fod yn torri'r Rheol Tintur'r Cymro Humphrey Lhuyd.