Alaw (blodyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B Manion
Llinell 36:
 
''Nymphaea alba''
alaw (enw benywaidd), Lili Ddŵr Wen, Alaw, Ala y Dŵr, Alaw y Llyn, Bwltis, Godywydd, Lili-ddŵr Wen, Lili Gwyn y Dŵr, Magwyr Wen, Nymphaea alba, ''white water-lily''<ref> name="ReferenceA">Planhigion Blodeuol; Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003</ref>
 
''Nuphar lutea''
lili'r-dŵr felen (enw benywaidd), Lili Ddŵr Felen, Bwltis, Lili Melyn y Dŵr, Bwltys, Godowydd, Lili Felen y Dŵr, Lili Melyn y Dŵr, Melyn y Dŵr, Mwltws, Myltys, ''yellow water-lily''. <ref> Planhigion Blodeuol; Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003<name="ReferenceA"/ref>
 
==Alaw (''Nymphaea alba'')==
Llinell 48:
:''Ymhen Llyn y Gadair, nid nepell o'r sarn, mae yna lili yn y merddwr [tua SH567522 yn ôl y map OS] wrth droed Y Garn''
 
“Alaw” oedd enw gwreiddiol y lili ddŵr wen, a dyna welodd Parry-Williams "yn ddiog ddiysbryd yng nghwr y llyn - a'r petalau er hynny yn syndod o wyn". Roedd yr alaw yn fodel o wynder yn Llyfr Gwyn y 13eg ganrif hefyd - "Gwynnach oedd na'r alaw". Wn i ddim beth wnaeth y lili i haeddu'r fath ensyniadau difrïol gan y Bardd o Ryd Ddu: "coesau yn sownd mewn llysnafedd llaes"...a blodau "lleicion, gludiog, di-sawr yn pendympian ar wyneb y dyfnjiwn mawr..." Onid alarch y blodau yw hi i bawb arall? O leiaf gall neb ei gyhuddo o fod yn sentimental nac yn ystrydebol.<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 27[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn27.pdf Bwletin Llên Natur rhifyn 27]</ref>
 
==Lili'r-dŵr felen ''Nuphar lutea'' ==
 
===Llenyddiaeth===
'Yn Rhifyn 27 cyfeiriwyd at y lilïau gwynion y soniodd TH Parry Williams amdanynt yn ei gerdd i’r planhigyn hwn. Awgrymwyd fod y gerdd yn ddigon manwl i roi Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans i leoliad y lili yng nghyfnod y bardd, ac o’r disgrifiad “wrth droed Y Garn” cynigiais SH567522. Cynigwyd hefyd y gallai’r lilïau fod yno yn yr un fan o hyd. Dyma Jeremy Williams yn derbyn yr her, ac fe ymwelodd â’r llecyn ar 1 Awst 2010. Dyma yr ysgrifennodd i’r Bwletin:
 
:''Rachel and I braved the bogs around Llyn-y-Gader at Rhyd-ddu today in search of lilies. We first saw fish jumping, then some sparse bog bean. Then, just off the end of the old quarry spoil spur, a patch of lilies with a few large rocks in the water beyond. If you were wandering around the lake, it would be just the spot you might stop for a picnic. Dry slate spoil to sit on, a view across the lake to Rhyd-Ddu, Moel Eilio ridge, Yr Wyddfa and Yr Aran, and a patch of lilies, perhaps in flower. The grid ref is very close to the one given, SH 5669 5209''[sef, fel cyfeirnod 6-ffigwr SH567521].
 
Y lili ddŵr felen oedd y rhywogaeth a welodd JC ar y llun yn ôl y llun a dynnodd.<ref>Bwletin Llên Natur 31[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn31.pdf Bwletin Llên Natur 31]</ref> Ymddengys bod THP-W wedi newid y rhywogaeth yn ei gerdd (am resymau barddonol) o felyn i wyn - neu, mai'r un wen oedd ar y llyn yn ei amser ef. Un posibiliad arall wrth gwrs yw na chymerodd y bardd unrhyw sylw o gwbl o beth oedd yn tyfu ar y llyn, ac mai ffrwyth ei ddychymyg oedd y cyfan!
 
 
 
 
 
{{eginyn planhigyn}}