Baner Gaiana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
B Manion
Llinell 3:
Bu '''baner Gaiana''' (Guyana) yn faner swyddogol y wlad yma yn [[De America|Ne America]] ers mis Mai 1966 pan ddaeth y wlad yn annibynnol oddi ar y [[Deyrnas Unedig]]. Y llysenw ar y faner yw '''The Golden Arrowhead'''.
 
Dylunwyd y faner gan Whitney Smith, fecsolegydd o America. Roedd ei gynllun yn wreiddiol heb y ffinio du a gwyn a ychwanegwyd yn hwyrach ar awgrymiad y [[College of Arms]], corff [[Herodraeth|herodraeth]] Lloegr. Gwnaethpwyd hyn er mwyn cydymffurfio â [[Rheol Tintur]] sy'n nodi bod "lliw ar liw" (yn achos saeth werdd ar gefndir goch yn achos y dyluniad wreiddiol, yn anodd ei weld a'i adnabod o bellter. Cymesuredd y faner yw 3:5.
 
==Symboliaeth==
Llinell 14:
 
==Baneri eraill==
Ceir baneri ar gyfer wahanol wasanaethau sifil a lluoedd arfog Gaiana. Maent yn aml yn dilyn traddodiad [[Banereg|banereg]] Brydeinig.
<gallery>
Civil Air Ensign of Guyana.svg|bawd|Baner Ensign Awyr Sifil Gaiana
Llinell 23:
 
==Cyn-faneri==
Fel rhan o Ymerodraeth Prydain, roedd y faner a ddefnyddiwyd i gynrychioli Gaiana yr un cynllun bras â threfediaethau eraill yr ymeroedraeth - llain las, gyda baner [[Jac yr Undeb]] yn y [[canton]] ac arfbais Gaiana mewn cylch ar ochr canol dde y faner. Defnyddiwyd fersiwn goch answyddogol ar y môr (gan ddynwared lliman goch, 'Red Ensign' Prydain). <ref>{{en}} {{cite web |url=http://flagspot.net/flags/gy_hist1.html#Former |title=1955-1966 Vlae |publisher=Flags of the World |accessdate=4 Maart 2013 }}</ref> Lansiwyd y faner gyntaf yma yn 1875 gan addasu yn 1906 ac 1955. Fel gydag holl baneri yn y traddodiad Brydeinig, y cymesuredd oedd 1:2. Lluniwyd hefyd faner answyddogol ar gyfer Gweriniaeth Gaiana rhwng 1997-1904.
 
<gallery>