Aderyn drycin y graig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B Manion
Llinell 24:
 
Tua 60 mlynedd yn ôl yr oedd Aderyn-Drycin y Graig yn aderyn gweddol brin yng [[Cymru|Nghymru]], ond erbyn hyn mae'n gyffredin yn yr haf lle bynnag y mae creigiau addas i nythu ger glan y môr. Credir fod y cynnydd yn ei nifer yn rhannol o leiaf oherwydd fod mwy o bysgota ar y môr yn golygu fod mwy o weddillion pysgod ar gael iddynt.
[[FileDelwedd:GB yn dangos nyth aderyn drycin y graig dof iawn yn nythu ar glogwyn yn Ynysoedd Erch.png|bawd|Aelod o Llên Natur yn dangos nyth aderyn drycin y graig dof iawn yn nythu ar glogwyn yn [[Ynysoedd Erch]].]]
 
==Enwau==
*Pedryn y graig</br>
Mae cyfnod [[Sant Pedr|Gwyl Sant Pedr]] (29 Mehefin) yn rhoi esgus son am deulu'r adar drycin. Enw arall ar y teulu yw'r "pedrynnod" (petrels) sydd yn cyfeirio at eu gallu i hofran fodfeddi uwchben y tonnau wrth hel eu tamaid ar y môr mawr. Mae'n tynnu cymhariaeth â Phedr a'i allu yntau, unigryw ymhlith yr [[Apostolion]], i gerdded ar y dŵr.
 
*''Fulmar'' (Saesneg)</br>
Daw'r enw Saesneg fulmar yn wreiddiol o air y [[Llychlynwyr]] ''foul-mar'', a fenthycwyd yn ddiweddarach gan bobl Ynysoedd Hiort neu St. Kilda a siaradai'r [[Gaeleg|Aeleg]]. Gwylan ddrewllyd oedd ystyr fulmar ond nid gwylan mohoni - yn wir, mae'n perthyn yn agosach i [[albatros]] nac i [[gwylan|wylan]].
 
Llinell 38:
 
==Adnabod==
Wrth i chi fynd am dro o gwmpas clogwyni môr Cymru, edrychwch am "wylan" ychydig yn fwy gosgeiddig, ychydig yn fwy hyderus na'r rhelyw wrth iddi chwarae'n ddeheuig ar yr awelon. Chwiliwch am un gwynnach na gwyn ag iddi adenydd, ar led, fel bwa heb blygiad na gwyriad o un pen blaen i'r llall fel petai hi'n gwisgo'i chôt yn syth o'r wardrob heb dynnu'r cambren! Os cewch olwg agosach, mi welwch ei llygad du, a'i phig wedi ei wneud fel petai o ddarnau jig-so nad ydynt prin yn ffitio i'w gilydd. Dyna i chi bedryn y graig<ref name="llennatur.cymru">[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn6.pdf llennatur.cymru; gwefan Llên Natur; adalwyd 5 Ionawr 2019.]]</ref>
 
==Ymlediad==
Dros o leiaf bedair canrif, ac am gyfnod llawer hwy, hyd orau y gwyddom, conglfaen economi pobl [[St Kilda|Ynysoedd Hiort]] oedd y pedryn. Roedd y diwylliant ynghlwm wrtho yn unigryw gan nad oedd yr un boblogaeth arall o'r adar hyn i bob pwrpas yn bodoli yng ngogledd yr Iwerydd tan ail hanner y 19eg ganrif. Ar raffau y cafodd yr adar eu cynaeafu oddi ar y clogwyni gan yr ynyswyr, a hynny yn eu miloedd. Disgrifiodd Martin Martin, croniclwr yr ardal<ref>Martin Martin [https://www.amazon.co.uk/Description-Western-Islands-Scotland-Circa/dp/1841580201] (c. 1695)''A Description of the Western Isles of Scotland'' cyh. xxx</ref> fod "gan y gymuned ddwy raff bedwar [[gwrhyd]] (fathom) ar hugain o hyd.... dringai'r dynion i lawr a mawr oedd y cynhaeaf o wyau a chyrff a ddeuai i'w rhan" (cyfieithiad). Wrth ori eu hunig wy ar eu nythfa serth, cyfogai - na, saethai - yr adar gynnwys drewllyd eu 'stumogau at y rhai a ddeuai oddi uchod ar y rhaffau. Dychmygwch y drewdod ar grysau a throwseri wrth i'r hogiau noswylio.
Daeth y diwydiant hynafol unigryw, a'r diwylliant ynghlwm wrtho, i ben ar 30 Awst 1930 gyda'r fudfa olaf a orfodwyd ar y boblogaeth gan y Llywodraeth Brydeinig "er ei lles". Stori arall yw honno.
 
Ond yn yr un cyfnod digwyddodd ddeiaspora (o fath) i'r pedrynnod hefyd. Tua 1878, am resymau nad ydynt yn gwbl hysbys hyd heddiw, dechreuodd yr adar nythu ar ynysoedd eraill gan ymledu nes iddynt gyrraedd Ynys Manaw yn 1930. Cafwyd nyth cyntaf Cymru yn 1945 ar Ben y Gogarth, Llandudno, a chofir y cyffro ddiwedd y 1970au pan gafwyd y parau cyntaf yn nythu ar lethrau'r Friog yn Sir Feirionnydd.<ref>[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn6.pdf name="llennatur.cymru; gwefan Llên Natur; adalwyd 5 Ionawr 2019.]<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==