Cors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr using AWB
B Manion
Llinell 103:
 
==Mytholeg a defodau==
Roedd corsydd, fel afonydd, llynnoedd a ffynhonnau yn bwysig iawn yn nychymyg ac yn nefodau'r hen Geltaidd. Byddai eu hoffeiriaid yn aberthu i'r lleoedd dyfrllyd hyn, a ystyrid yn byrth i [[Annwfn]] (y byd arall) er mwyn sicrhau atgyfodiad yr haf yn flynyddol yn y frwydr ddiderfyn rhwng pwerau'r tywyllwch a'r goleuni.
 
Cawn adlais o hynny yn chwedl Lleu yn y Mabinogion. Ymgorfforiad o dduw'r haul oedd [[Lleu]] ac yn ôl y stori cafodd yr arwr ei ladd pan gyflawnwyd tri amod arbennig yn y rhyd yn yr [[afon Cynfal]]. Yna, mae'n troi'n eryr (roedd aderyn yn symbol o daith yr enaid i'r byd nesa) cyn cael ei atgyfodi yn ddiweddarach, ar ffurf dyn unwaith eto, gan y dewin [[Gwydion]]. Un o'r tri amod oedd bod raid i Lleu sefyll mewn lle nad oedd yn dir nac yn ddŵr. Tybed be arall allai hynny fod heblaw cors ynde?
 
Mae'n debyg bod cors neu donnen (y fignen ddyfrllyd honno sy'n siglo dan draed), fel heddiw, yn cael ei hystyried yn lle peryglus a thwyllodrus – yn ymddangos yn gadarn ond yn gallu traflyncu'r anghyfarwydd. Hawdd credu y byddai'r hen bobl yn ystyried cors yn drigfan i bwerau mileinig a drygnaws oedd angen eu tawelu ag aberth. Hyd yn oed yn nes i'n dyddiau ni credid bod pwerau'r fall yn trigo mewn corsydd. Onid cannwyll gorff oedd un o'r enwau ar y fflamau rhyfedd, achosid gan y nwy methan, a welid ar fawnogydd weithiau? Yn Nyfed, yr enw ar y dwymyn dridiau (teiffws neu 'ague') oedd yn plagio pobl oedd yn byw gerllaw corsydd oedd Yr Hen Wrach. Ac, wrth gwrs, croesi Cors Anobaith oedd un o'r profion wynebai Cristion yn '[[Taith y Pererin|Nhaith y Pererin]]', [[John Bunyan]].
Llinell 115:
*;Gwern Uffern!
:''Gwern, (alder, alder marsh) turns up in a swear word: Gwern Uffern! (The marsh of hell) which gives a peculiarly Celtic feel for a place of eternal damnation, damp and cold, in contrast with the hot burning fires of hell of Middle Eastern inspiration!<ref>Brynach Parri ar flog Brecknock Place-Name Society</ref>
Ymhelaethodd Brynach mewn ebost i Llên Natur: "mae'n cyfateb i 'Bloody hell!' yn Saesneg, sef yn mynegi arswyd, ond mae'n ddarluniol iawn. Mae ar lafar gan yr hen do yma ym Mrycheiniog, ac rwyf wedi ei glywed hefyd gan fenyw o Faesteg, sydd heb unrhyw gysylltiadau a'r parthau 'ma." Ychwanegodd Twm Elias: "Mae’n atgoffa i o’r disgrifiad o un o dreialon / temptasiynnau Cristion [Taith y Pererin], pan gafodd ei ddal yng Nghors Anobaith" (uchod)<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 43[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn43.pdf Bwletin Llên Natur rhifyn 43]</ref>
 
Ond yn fwy trawiadol fyth yw'r dystiolaeth o aberth dynol. Daethpwyd ar draws dros 200 o gyrff hynafol mewn mawnogydd yn ystod y tair canrif ddiwethaf ym Mhrydain ac Iwerddon. Trueni ynde, mai dim ond yn ddiweddar y dysgwyd sut i gadw'r cyrff hyn rhag pydru'n gyflym unwaith y daethant i gysylltiad ag aer. Cafwyd nifer dda ohonynt yn Nenmarc hefyd – darllenwch lyfr yr Athro PV Glob “The Bog People” (1969) am fwy o'u hanes. Yna, yn 1984, darganfyddwyd corff Dyn Lindow (neu 'Pete Marsh'!) yn [[Lindow]] Moss (Lindow yn tarddu o Llyn Du) ger [[Manceinion]]. Roedd llawer o'r cyrff hyn, am eu bod wedi eu piclo mewn mawn, mewn cyflwr mor 'berffaith' pan y'u darganfyddwyd nes galwyd yr heddlu'n syth cyn i'r rheiny, yn eu tro, drosglwyddo'r mater i'r archeolegwyr!
 
Roedd yn amlwg bod llawer o'r cyrff yma, oedd yn dyddio o tua 300 – 500CC, wedi eu haberthu'n seremonïol. Roeddent (bron) yn noeth – Dyn Tollund, yn Nenmarc, yn gwisgo dim ond cap a gwregys lledr a Dyn Lindow yn gwisgo breichled o flew llwynog, a'i gorff wedi ei baentio'n wyrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o'r ail amod oedd ei angen i ladd Lleu – ddim wedi ei wisgo a ddim yn noeth. Tybed a oedd Lleu wedi ei baentio fel Dyn Lindow?
Llinell 123:
Ond y peth mwyaf trawiadol am y cyrff corslyd hyn oedd y modd y cawsant eu lladd. Roedd Dyn Lindow, er enghraifft, wedi ei ladd drwy ei daro ar ei ben, ei grogi â chortyn, a'i wddw wedi ei dorri â chyllell cyn iddo gael ei osod â'i wyneb i lawr yn y gors. Mae hyn yn cyfateb yn agos iawn i ddisgrifiadau'r Rhufeiniaid o sut y byddai'r Derwyddon yn dienyddio eu haberth – sef drwy'r farwolaeth driphlyg. Bellach rydym wedi colli'r wybodaeth am y rheswm bod rhaid aberthu yn y modd hwn, drwy ladd mewn tair ffordd. Tri dull i fodloni'r tri prif dduw efallai?
 
Os chwiliwn yn ofalus fe gawn sawl adlais o'r farwolaeth driphlyg, neu farwolaeth ar ôl cyflawni tri amod, yn britho'r hen chwedlau Cymreig a Gwyddelig. Er enghraifft, yn y straeon am Cú Chulain, arwr Ulster, mae'n rhaid i Cú Chulain brofi ei ddewrder drwy adael i Cú Roi gogio ei daro dair gwaith yn ei wddw â bwyell ac mae'n rhaid i dri amod gael eu cyflawni cyn y gall Gronw Pebr ladd Lleu. Y trydydd amod, gyda llaw, at y ddau grybwyllwyd eisoes, oedd na ddylsai fod mewn adeilad nac yn yr awyr agored.
 
Yn yr Alban ceir stori Lailoken (y 'Myrddin' Albanaidd) gafodd ei daro â charreg nes iddo ddisgyn i'r afon – lle cafodd ei drywannu gan stanc adawyd yn y dŵr gan bysgotwr, a boddi! A beth am y stori o Eryri am y llanc ymladdodd yr anghenfil triphen ar lan Llyn Gwynant – ond a gafodd ei frathu gan yr anghenfil cyn disgyn i'r dŵr, taro ei ben ar garreg a boddi!