Enfys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Mathau o enfys: Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
B Manion
Llinell 17:
Rhyfeddod neu ffenomenon [[opteg]]ol a [[meteoroleg]]ol yw '''enfys''' ([[Llydaweg|Hen Lydaweg]]: ''envez''; 'cylch neu 'fodrwy'), pan fydd [[sbectrwm optegol|sbectrwm]] o [[golau|olau]] yn ymddangos yn yr awyr pan fo'r [[haul]] yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn [[atmosffer|atmosffer y ddaear]]. Mae'n ymddangos ar ffurf bwa [[lliw|amryliw]], gyda [[coch|choch]] ar ran allanol y bwa, a [[dulas]] ar y rhan fewnol. Caiff ei greu pan fo golau o fewn diferion o ddŵr yn cael ei [[adlewyrchu]], ei [[Plygiant|blygu]] (neu ei wrthdori) a'i wasgaru.
 
Mae enfys yn ymestyn dros sbectrwm di-dor o liwiau; mae'r bandiau a welir yn ganlyniad i olwg lliw [[bod dynol|pobol]]. Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel [[coch]], [[oren]], [[melyn]], [[gwyrdd]], [[glas]], [[indigo]] a [[fioled]]. Gellir eu dwyn i'r cof wrth adrodd y [[cofair]]:
 
'''C'''aradog '''o''''r '''m'''ynydd '''g'''afodd '''g'''ig '''i''''w '''f'''wyta".<ref>D. Geraint Lewis. ''[[Lewisiana]]'' (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 44.</ref>
Llinell 24:
 
'''C'''ollodd ''' O'''wain '''M'''organ '''G'''ar '''G'''las '''P'''an '''F'''aglodd (coch oren melyn gwyrdd glas porffor fioled)<ref>Twm Elias, Am y Tywydd, Gwasg Carreg Gwalch</ref>
 
 
Gall yr enfys fod ar ffurf cylch cyfan ond dim ond rhan ohoni mae'r gwyliwr cyffredin, fel arfer, yn gweld ohoni - bwa'n unig ac nid cylch.<ref>{{cite web|title=Dr. Jeff Masters Rainbow Site|url= http://www.wunderground.com/blog/JeffMasters/the-360degree-rainbow}}</ref>
Llinell 39 ⟶ 38:
Dyma adroddiad Ifor Williams a dynnodd y llun hwn a'i gamera ar 1af Rhagfyr 2009:
[[Delwedd:Enfys Wen, Llanfaglan, 1 Rhagfyr 2009.jpg|bawd|Enfys Wen, Llanfaglan, 1 Rhagfyr 2009 - enghraiift o enfys yn y nos yn tarddu o olau lleuad. Dim ond y camera a allodd godi’r lliwiau.]]
:"Gwelais hwn am bum munud wedi chwech nos Fawrth Rhagfyr y cyntaf 2009. Fel y tybiech roedd hi'n dywyll (yn wyntog ac yn glawio a’r lleuad y tu cefn i mi). Dydi’r llun ddim yn dangos y tywyllwch (y camera wedi ei osod ar 1600ISO 8 eiliad o noethiad ar f/3.5 +hanner stop) sydd yn golygu bod y camera wedi gweld hwn fel pe tai yng ngolau dydd. I'r llygad dim ond fel enfys lwyd oedd hi, ond mae'r lliwiau i'w gweld yn glir gan y camera. Rwyf wedi tywyllu'r llun hefyd!"<ref>Ifor Williams, Bwletin Llên Natur 23[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn23.pdf Ifor Williams, Bwletin Llên Natur 23]</ref>
 
Dyma gofnododd Edward Llwyd yn ei Parochialia yn 1699:
:''LHAN VAIR DYFFRYN CLWYD''
:''Y Kreigie: The Rocks''</br>
:''A Rainbow was seen here in ye night July 27 [16]99''<ref>Parochialia Edward Llwyd (copi yn Archifdy Gwynedd)</ref>
 
Llinell 49 ⟶ 48:
Fe'i gelwir hefyd yn Fwa Brocken neu Rhith Fynydd: delwedd o fwa, gyda chysgod chwyddedig y sylwedydd ynddo, wedi ei fwrw ar y cymylau gyferbyn a chyfeiriad yr haul.
 
:Tynnwyd llun o rith y Brocken wrth edrych i lawr ar adeiladau uwchben San Francisco ar Awst 26, 2006 o ''sea-plane'' fechan i weld y ddinas o'r awyr; ein gobaith mwyaf oedd gweld y Golden Gate Bridge ond siom a gawsom, daeth niwl trwchus i'w gorchuddio - mae hyn yn beth arferol yn yr ardal, fel y gwyddoch. Yr oedd yr haul yn disgleirio `union` uwch ein pennau ac ymhen ychydig, sylwais ar y cwmwl oddi tanom - gwelwn gysgod yr awyren mewn cylch o enfys.<ref>Brenda Jones, Llanwnda ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn30.pdf Brenda Jones, Llanwnda ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30]</ref>
 
* Cylch o gwmpas yr haul
[[Delwedd:Enfys o gwmpas yr haul, o draeth Llanddwyn, Môn, Ionawr 28, 2012.jpg|bawd|Enfys o gwmpas yr haul, o draeth Llanddwyn, Môn, Ionawr 28, 2012 (Llun: Alun Williams).]]
Cylch haul 22°, a ffurfiwyd gan adlewyrchiad solar ar grisialau rhew yn y cymylau Cirrostratus sy’n ymledu o’r de orllewin. Mae’r cymylau Cs yn rhaflaenu ffrynt cynnes.<ref>Huw Jones ym Mwletin Llên Natur 49 (cyfieithiad)</ref></br>
 
Cylch 28 Rhagfyr 2009:
:Am ychydig ar ôl 11 o'r gloch fore’r 28 Rhagfyr 2009 cefais alwad ffôn gan Twm Elias o gyffiniau Cwm Dulyn, Dyffryn Nantlle yn tynnu fy sylw at gylch o gwmpas yr haul. "Dos allan" meddai, "a gyda dy fraich wedi ei ymestyn o'th flaen, dyro dy fawd dros yr haul a'th law ar led ac mi weli di gylch golau o'i gwmpas tua lle mae dy fys bach yn cyrraedd". Dyma fynd i edrych, ac, ia, dyna lle’r oedd o yn union fel y'i disgrifiodd.. "Cylch yn bell - glaw yn agos" yw'r arwydd meddai Twm . A do, cafwyd gwyntoedd mawr y noson honno.<ref>Mwy yn Elias (2008): Am y Tywydd. Gwasg Carreg Gwalch: llun Bwletin Llên Natur rhifyn 24 [https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn24.pdf]</ref>
 
==Geirdarddiad==