Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hen Saesneg"

Lleihawyd o 247 beit ,  blwyddyn yn ôl
B
Manion
(llun, cat, manion)
Tagiau: 2017 source edit
B (Manion)
[[Delwedd:Beowulf Cotton MS Vitellius A XV f. 132r.jpg|bawd|Tudalen flaen ''[[Beowulf]]'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson.]]
Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith [[Saesneg]] yw '''Hen Saesneg''' (''Ænglisc'', ''Anglisc'', neu ''Englisc'') neu '''Eingl-Sacsoneg'''<ref>{{dyf GPC |gair=Eingl-Sacsoneg |dyddiadcyrchiad=17 Mawrth 2019 }}</ref><ref>{{Cite book|title=The Cambridge Encyclopedia of the English Language|last=Crystal|first=David|publisher=Cambridge University Press|year=2003|isbn=0-521-53033-4}}</ref> a siaredid yn [[Lloegr]] ac yn ne a dwyrain [[Yr Alban|yr Alban]] yn ystod [[Yr Oesoedd Canol|yr Oesoedd Canol Cynnar]]. Cafodd ei ddwyn i [[Prydain Fawr|Brydain Fawr]] gan ymfudwyr [[Eingl-Sacsonaidd]] tua chanol y 5g, ac mae'r gweithiau hynaf yn llenyddiaeth Saesneg yn dyddio o ganol y 7g. Wedi'r goncwest [[Normanaidd]] yn 1066, disodlwyd Saesneg, am gyfnod, fel iaith yr uchelwyr yn Lloegr gan yr [[Eingl-Normaneg]]. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod yr Hen Saesneg, pan ddylanwadwyd yn gryf ar Saesneg gan Eingl-Normaneg gan ddatblygu'r ffurf a elwir bellach yn [[Saesneg Canol]] .
 
Datblygodd Hen Saesneg o dafodieithoedd Eingl-Ffriseg neu Ingfaeonig a siaredid yn gan lwythau [[Germaniaid|Germanaidd]] a adwaenid yn draddodiadol fel yr Eingl, y [[Sacsoniaid]], a'r Jiwtiaid. Wrth i'r Eingl-Sacsoniaid ddod i dra-arglwyddiaethu yn Lloegr, bu farw'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] a thafodiaith [[Lladin Prydeinig]] yn y wlad. Pedair prif dafodiaith oedd i Hen Saesneg a gysylltir â rhai o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsonaid: Mersia, Northymbria, Caint, a Wessex. Tafodiaith Wessex, neu Sacsoneg Orllewinol, oedd sail y ffurf lenyddol safonol yng nghyfnod diweddar yr Hen Saesneg<ref name=":2">{{Cite book|title=A History of the English Language|last=Baugh|first=Albert|publisher=Routledge & Kegan Paul|year=1951|isbn=|location=London|pages=60–83; 110–130 (Scandinavian influence).}}</ref> er y byddai ffurfiau amlycaf Saesneg Canol a Modern yn datblygu'n bennaf o dafodiaith Mersia. Dylanwadwyd yn gryf ar iaith dwyrain a gogledd Lloegr gan Hen Norseg o ganlyniad i [[Y Ddaenfro|wladychiad gan y Llychlynwyr]] o'r 9g ymlaen.
 
Un o'r [[Ieithoedd Germanaidd|ieithoedd Germanaidd]] Gorllewinol ydy Hen Saesneg, sy'n perthyn agosaf at Hen [[Ffriseg]] ac Hen [[Sacsoneg Isel|Sacsoneg]]. Megis yr hen ieithoedd Germanaidd eraill, mae'n wahanol iawn i Saesneg Modern ac yn anodd i siaradwyr Saesneg Modern ei deall heb ei hastudio. Mae gramadeg Hen Saesneg yn debyg i ramadeg [[Almaeneg]] Modern: mae sawl ffurf a therfyniad [[Ffurfiant|ffurfdroadol]] i enwau, ansoddeiriau, rhagenwau, a berfau, ac mae trefn y geiriau yn llawer mwy rhydd.<ref name=":2">{{Cite book|title=A History of the English Language|last=Baugh|first=Albert|publisher=Routledge & Kegan Paul|year=1951|isbn=|location=London|pages=60–83; 110–130 (Scandinavian influence).}}</ref> Ysgrifennwyd yr arysgrifau hynaf yn Hen Saesneg mewn llythrennau rwnig, ond tua'r 9g ymlaen disodlwyd y system honno gan ffurf ar [[Yr wyddor Ladin|yr wyddor Ladin]].
 
== Cyfeiriadau ==
420,642

golygiad