Thymws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
Llinell 1:
[[Delwedd:OSC Microbio 18 01 thymus.jpg|bawd|300px|OSC Microbio 18 01 thymus]]
 
Mae'r '''thymws''' yn organ lymffoid arbenigol sy'n rhan o'r [[System imiwnedd|system imiwnedd]]. Mae'r thymws i'w canfod o flaen y [[Calon|galon]] a thu ôl i'r [[sternwm]]. Yn y thymws, bydd celloedd T neu lymffocytau T yn aeddfedu. Mae celloedd T yn hanfodol i'r system imiwnedd addasol, lle mae'r corff yn addasu'n benodol i ymosod ar antigenau estron. Y thymws yw lle mae celloedd T yn datblygu o gelloedd hematopoietig (sy'n ffurfio gwaed). Yn ogystal, dyma le mae'r celloedd T yn addasu i fod yn oddefgar i gelloedd y corff<ref>Gray's anatomy : the anatomical basis of clinical practice (40th ed.). London: Churchill Livingstone, 2008. Golygydd Susan Standring ; ISBN 978-0-8089-2371-8</ref>.
 
Mae'r thymws yn fwyaf gweithgar yn ystod y cyfnodau newydd-anedig a chyn y [[glasoed]]. Erbyn yr [[arddegau]] cynnar, mae'r thymws yn dechrau arafu. Fodd bynnag, mae'n parhau i wneud lymffocytau trwy gydol oes oedolion.
Llinell 8:
 
== Strwythur ==
Mae'r thymws yn [[Organau dynol|organ]] meddal lled drionglog a leolir yn mediastinwm y ceudod thorasig ychydig yn uwch ac o flaen y galon a thu ôl i'r sternwm. Mae ganddo ddwy labed, y ddwy wedi amgylchu gan gapsiwl ffibrog gwydn. O fewn y ddwy labed mae rhan arwynebol o feinwe o'r enw'r cortecs a rhanbarth dwfn o'r enw'r medwla. [[Meinwe|Meinweoedd]]oedd epithelaidd a meinweoedd lymffatig sy'n cynnwys celloedd canghennog a macroffagau sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r ddau ranbarth.
 
Mae'r thymws yn tyfu'n gyflym ac yn cyrraedd ei faint mwyaf o'i gymharu â gweddill y corff yn ystod oes y ffetws a blynyddoedd cyntaf plentyndod<ref>[http://www.innerbody.com/image_endoov/lymp04-new.html Inner Body ''Thymus Gland''] adalwyd 30 Ionawr 2018</ref>. Wedi hynny, mae'n parhau i dyfu, ond yn arafach na'r organau eraill. Ar ddechrau [[glasoed]] mae'r thymws yn dechrau proses araf o fynd yn llai. Mae'r gostyngiad graddol hwn yn parhau trwy weddill bywyd yr unigolyn. Mae'r thymws yn cyrraedd ei phwysau mwyaf (20 i 37 gram) erbyn cyfnod y glasoed. Wrth i unigolyn heneiddio, mae ei thymws yn crebachu'n raddol, gan ddirywio i mewn i ynysoedd bach o feinwe brasterog. Erbyn 75 mlwydd oed, mae'r thymws yn pwyso dim ond 6 gram. Mewn plant, mae'r thymws yn llwyd-binc mewn lliw ac mewn oedolion mae'n felyn.