Torgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B Manion
Llinell 27:
 
Mewn truth hir am bob math o ddigwyddiadau yn ''Y Drych'' (5 Tachwedd 1914) nodir:- "Ym mysg y pysgod gwneir difrod garw ar y torgochiaid yn llyn Llanberis y dyddiau hyn. Mae llawer yn cael helfa dda aml i ddiwrnod, tra gwerthir hwy yn rhwydd am swllt y pwys."<ref>''Y Drych'', 5 Tachwedd 1914 (DW-T)</ref>
 
</br>
 
Ac yn ''Herald Cymraeg 1909'', nodir:
TORGOCHIAID LLYNOEDD PADARN, PERIS', CAWELLYN
 
Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddi wrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol o liw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blynyddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen amser [cyn 1909].
 
Dechreuid rhwydo yn yr hen amser yn llynau [[Llanberis]] tua chanol Tachwedd, ac yn para hyd ddiwedd Rhagfyr. Dechreuid yn [[Llyn Cwellyn|Llyn Cawellyn]] tua dechreu lonawr, a pharha am fis, neu weithiau fwy. Dywed y bardd [[Dafydd Ddu Eryri]], yn y "[[North Wales Gazette]]" am Chwefror 2, 1809, y buwyd yn dal tua mil ohonynt yn Llyn Cawellyn mewn tair wythnos. Daliwyd tua thriugain dwsin yn [[Llyn Padarn]] ar un ddalfa. Gwna hyny 720 mewn un noson, tra y dywed Dafydd Ddu na cheid cymaint yn Llyn Cawellyn. Dywed eto yn mhellach (a chofier fod cant o flynyddoedd i mis Chwefror diweddaf er hyny), mai y Torgoch mwyaf ddaliwyd yn Llynau Llanberis oedd ddeng modfedd o hyd, tra y mae Torgochiaid Cawellyn yn llai, yn mesur prin wyth modfedd. "Ymddengys," meddai, "mai yr un rywogaeth o Dorgochiaid sydd yn Llynau Llanberis a Cawellyn."
Llinell 65:
::"Oeddynt, agos bob blwyddvn, ac yn dal peth ofnadwy. Mi gwelis i nhw yn tynu rhyw ddau gybynad i'r lan ar un tynfa. 'Rwy'n meddwl na fethwn i ddim wrth ddweud bod 'na filoedd yn cael eu dal."
:"Ydych chwi yn meddwl fod yna gymaint ohonynt yn awr ag a fu?"
::"Nac oes, 'rwy'n credu. Gwaith effeithiol i gynnyddu pysgod ydyw rhwydo. Rwy' bron yn sicr y byddai un cwch, rhyw ugian i bump ar hugian o flynyddoedd yn ol yn dal mwy ohonynt nac a ddelir ar hyd y tymhor yrwan. Dyma i chwi beth arall am danynt, ni fyddem yn eu dal yn nechreu y tymhor — tua diwedd mis Mehefin, yn ngwaelod y llyn, rhyw bymtheg i ugian llath o ddyfn, ag at ddiwedd y tymhor byddent yn codi i fyny i'r wyneb agos."
 
Coeliaf fod ffeithiau Dafydd Ddu a ffeithiau Robert Rowlant yn llefaru, mai po fwyaf a ddelir ohonynt mai mwyaf oll fydd ohonynt. Ni threiaf gysoni hyn. <ref>awdur y traethawd: WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis[https://newspapers.library.wales/view/3780929/3780932/20/Torgoch awdur y traethawd: WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis]</ref>
 
*'Dal pysgod ar y gwelyau claddu [dodwy] oeddynt gyda rhwydi - felly roeddynt yn llawn o rawn a 'milt' ac nid oedd ansawdd y cig ddim yn rhyw dda iawn. 'Roeddynt yn cael ei piclo yr amser yma - ond mae'n debyg fod eu cig yn llawn maeth