Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
Llinell 35:
[[Delwedd:Offeiriad, eglwys Cadfan.jpg|bawd|chwith|Cofeb i offeiriad di-enw yn eglwys Cadfan]]
 
Buasai Cadfan a'i gyd-deithwyr wedi dilyn trefn arferol Cristnogion Celtaidd de Cymru gan sefydlu ''[[llan|]]''llan'']] neu gymuned Gristnogol ar gyfer menywod a dynion gydag eglwys fechan yn ei chanol.<ref name=":5">Bowen, E.G. 1954, The Settlement of the Celtic Saints in Wales, Uni. of Wales</ref> (Ystyr gwreiddiol y gair ''llan'' oedd darn o dir wedi ei gau neu safle agored yng nghanol coed.<ref>Fraser, D. 1966, Y Goresgynwyr, Gwasg Prifysgol Cymru</ref>) Adeiladwyd eglwys o bren yn gyntaf. Buasai'r llan yn weddol agos at drigolion lleol, ond heb gymryd drosodd eu pentrefi neu eu caeau. Nid oes unrhyw olion o'r safle hwn ond mae'n rhesymol i dybio ei fod o dan hen rannau o Dywyn sy'n cynnwys safle yr eglwys. Ni wyddom pa mor gyflym y llwyddodd [[Cadfan]] i ddenu pobl leol at Gristnogaeth ac i ymuno â'r gymuned ond yn dilyn arferiad de Cymru pan dyfodd y llan yn rhy fawr, neu pan oedd plant penaethiaid yn dymuno sefydlu eu tiriogaeth eu hunain, buasai llan newydd wedi cael ei chreu dan arweiniad un o deulu'r uchelwyr.<ref name=":5" /> Mae nifer o lannau ym [[Meirionnydd]] yn dwyn enw un o'r tylwyth a daeth o Lydaw neu un o'u disgynyddion.
 
==== Y clas ====
Datblygodd ambell lan enw da naill am yr addysg a roddwyd yno neu ymgartrefodd rhywun adnabyddus am ei ddysg yno. Tyfodd y rhain, gan gynnwys Tywyn, i fod yn [[Clas|glasau]]; sef canolfannau addysgiadol eu hardal.<ref name=":5" /> Pan ddaeth Cristnogaeth yn ffydd y mwyafrif trodd y llannau'n bentrefi ond parodd rhai o'r clasau'n gymunedau Cristnogol, gyda gwragedd yn ogystal â dynion, tan y goresgyniad Edwardaidd. Erbyn 1147 gelwid arweinydd y [[clas]] yn Nhywyn yn abad <ref name=":4" /> a throsglwyddodd y swydd o dad i fab.
 
 
==== Y faenol ====
Llinell 76 ⟶ 75:
 
=== Ystad Ynysymaengwyn ===
[[Delwedd:Gruffudd ab Adda.jpg|bawd|chwith|Gruffudd ab Adda, Cofeb yn eglwys Cadfan]]
 
==== Yr enw Corbet ====
Llinell 151 ⟶ 150:
 
==== Diriwiad ====
Erbyn 1935 bu gweinidog Cymraeg yn cyfrifol am capel y Bedyddwyr yn y gaeaf ond cymerodd gweinidogion ar eu gwyliau cyfrifoldeb am oedfaon yr haf.<ref name=":13" /> Trodd y capel yn raddol i'r Saesneg cyn iddynt cau yn 60au y canrif diwethaf. Defnyddir yr adeilad gan Efengylwyr heddiw. Yn 1969, ar ôl defnyddio yr hen gapel Wesle ger Stryd y Nant am 12 mlynedd, agorodd y Catholigion eglwys Dewi. Caewyd capel Bethesda yn 2010 <ref>Awdur yn presennol yn y Cwrdd Eglwys pan penderfynodd cau y capel</ref> a chapel Bethany yn 2017.<ref>Hysbyseb tu allan i'r capel</ref>
 
=== Addysg ===
Llinell 202 ⟶ 201:
 
*Arthur ap Huw: Roedd 'Syr' Arthur ap Huw (a elwid weithiau yn Arthur Hughes)yn ŵyr i Hywel ap Siencyn ab Iorwerth o Ynysymaengwyn ac yn ficer eglwys Cadfan yn Nhywyn rhwng 1555 a'i farwolaeth yn 1570. Roedd hefyd yn noddwr nodedig i'r beirdd.<ref>Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych'', 28, p. 120.</ref> Fe'i cofir am ei gyfieithiad Cymraeg o destun [[Gwrth-Ddiwygiad|gwrth-ddiwygiadol]] George Marshall, ''A Compendious Treatise in Metre'' (1554).<ref>Bowen, Geraint. 1956. [http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1280432/article/000040032 Arthur ap Huw]. ''Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru'', 9.3, t. 376.</ref>
 
*Dafydd Jones: Roedd nai Arthur ap Huw, David neu Dafydd Johns (a elwid weithiau'n David Jones neu David ap John, bl. 1572-98) yn ffigwr arall amlwg yn y [[Dadeni Dysg]] yng Nghymru.<ref>{{ODNBweb|id=14987|last=Roberts|first=Brynley F.|title=Johns, David (fl. 1572–1598)|year=2004}}</ref> Roedd yn or-or-ŵyr i Hywel ap Siencyn, ac fe gopïodd lawysgrif bwysig o [[cywydd|gywyddau]] ([[Llyfrgell Brydeinig]] Additional MS 14866) sydd yn cynnwys nifer o gerddi i deulu Ynysymaengwyn.
 
*Edward Morgan: Ceir nifer o gerddi o'r [[18g]] i'r teuluoedd Owen a Corbet o Ynysymaengwyn ac i'r Parchedig Edward Morgan.<ref>Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. ''Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd'', 4.2, tt. 97-118.</ref> Roedd Edward Morgan (m. 1749) yn frodor o [[Llangelynnin (Meirionnydd)|Langelynnin]], yn frawd i'r llenor ac ysgolhaig [[John Morgan (ysgolhaig)|John Morgan]] (Matchin), ac yn ficer eglwys Cadfan o 1717; ef oedd un o berchnogion llawysgrif David Johns yn ystod rhan gyntaf y 18g.
 
*Griffith Hughes: Un o blwyf Tywyn oedd y Parchedig [[Griffith Hughes]] (1707–c.1758). Ef oedd awdur ''The Natural History of Barbados'' (1750), cyfrol sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o'r [[grawnffrwyth]].
 
*Ieuan Fardd: Roedd y Parch. [[Evan Evans (Ieuan Fardd)]] (1731–88) yn gurad eglwys Cadfan rhwng 1772 a 1777. Yn ystod ei gyfnod yn Nhywyn bu'n athro barddol ar [[David Richards (Dafydd Ionawr)]], (1752-1827), y bardd o Lanyrafon ger [[Bryn-crug]].
 
*Evan Evans (Ap Ieuan, 1801-1882), o Dŷ Mawr; yn ffermwyr , yn bardd ac yn diwinydd. Bu ei fab, Gruffydd, yn cyfrifol
am nifer o datblygiadau ym myd milfeddygaeth.
 
*Edward Jones: Yn 1826, cyhoeddodd Edward Jones o Dywyn ''Marwolaeth Abel'', cyfieithiad o ''Der Tod Abels'' gan y bardd o'r [[Swistir]], Solomon Gessner.
 
*Ceiriog: Roedd [[John Ceiriog Hughes]] ('Ceiriog', 1832–1887) yn rheolwr gorsaf yn Nhywyn am gyfnod byr o 1870.
 
*Glasynys: Ar 4 Ebrill, 1870, bu farw'r offeiriad, yr hynafiaethydd, yr awdur a'r bardd [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]] (1828-1870) yn Nhywyn.
 
*Joseph David Hughes: Bu'r cerddor Joseph David Jones (1827–1870) yn ysgolfeistr yn Nhywyn am gyfnod, gan gwrdd â'i wraig yno. Yno hefyd y magwyd ei feibion rhwng 1870 a 1877, gan gynnwys Sir [[Henry Haydn Jones]] (1863-1950), a fu'n [[aelod seneddol]] ar Feirionnydd ac a dreuliodd bron y cyfan o'i oes yn byw yn y dref, a'r gweinidog nodedig gyda'r [[Annibynwyr]] yn Lloegr, John Daniel Jones (1865-1942).
 
*[[Tom Bradshaw]], pêl-droediwr.