Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol"

B
Manion
B
B (Manion)
== Allbyst ==
Mae gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol dau allbost rhanbarthol yn Beningbrough Hall, yn [[Swydd Efrog]], a Montacute House yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]]. Rhwng 1988 a 2018 bu gan yr oriel allbost yng [[Castell Bodelwyddan|Nghastell Bodelwyddan]] hefyd. Roedd yn arddangos 130 o bortreadau o'r casgliad. Oherwydd torri cyllid i gefnogi'r arddangosfa gan [[Cyngor Sir Ddinbych|Gyngor Sir Ddinbych]] yn 2017 cafodd y portreadau eu dychwelyd i Lundain. <ref>{{Cite web|url=https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-east-wales-39253282|title=Bodelwyddan Castle's portrait gallery exhibition to close|date=13 Mawrth 2017|access-date=12 mawrth 2019|website=BBC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Y casgliad ==
Mae'r oriel yn gartref i bortreadau o bobl Brydeinig o bwys hanesyddol ac enwog, wedi'u dewis ar sail arwyddocâd yr eisteddwr, nid yr artist. Mae'r casgliad yn cynnwys ffotograffau a gwawdluniau yn ogystal â phaentiadau, lluniadau a cherfluniau.<ref>{{cite web|url=http://www.canada.com/nationalpost/news/artslife/story.html?id=f76fcf3a-8f3e-46bf-bb1d-ebce6be3446e&k=48373&p=1|title=Every great country must have its portrait gallery|date=12 Hydref 2006|accessdate=12 Mawrth 2019|publisher=Canada.com|archiveurl=https://web.archive.org/web/20120825122623/http://www.canada.com/nationalpost/news/artslife/story.html?id=f76fcf3a-8f3e-46bf-bb1d-ebce6be3446e&k=48373&p=1|archivedate=25 Awst 2012|deadurl=yes|df=dmy-all}}</ref>
[[Delwedd:Shakespeare.jpg|bawd|chwith|unionsyth|Portread Chandos]]
Un o'i ddelweddau mwyaf adnabyddus yw'r ''portread Chandos'', y portread enwocaf o [[William Shakespeare]]<ref>[http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20080911031935/http://www.npg.org.uk/live/woshakespeare.asp National Portrait Gallery | What's on? | Searching for Shakespeare]</ref> er bod peth ansicrwydd ynghylch a yw'r darlun yn perthyn i'r dramodydd mewn gwirionedd. <ref>{{cite news|url=https://www.theguardian.com/uk/2006/mar/02/arts.books/print|title=The only true painting of Shakespeare – probably|last=Higgins|first=Charlotte|date=2 Mawrth 2006|work=The Guardian|location=London|accessdate=12 Mawrth 2019}}</ref>
 
Er bod enghreifftiau o waith gan artistiaid megis [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Willson]], John Singer Sargent, [[William Hogarth]], Syr [[Joshua Reynolds]] ac artistiaid nodedig eraill yn y casgliad nid yw'r holl bortreadau yn eithriadol o artistig. Yn aml, mae gwerth chwilfrydedd yn fwy na gwerth artistig yn y gwaith, fel yn achos y portread o [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] gan William Scrots, darlun Patrick Branwell Brontë o'i chwiorydd [[Charlotte Brontë|Charlotte]], [[Emily Brontë|Emily]] ac [[Anne Brontë|Anne]], neu gerflun o'r [[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines Victoria]] a'r [[Albert o Saxe-Coburg-Gotha|Tywysog Albert]] mewn gwisg ganoloesol.
 
Mae rhai o'r darluniau megis y portread grŵp o fynychwyr cynhadledd Somerset House 1604 i ddathlu cytundeb heddwch rhwng [[Lloegr]] a [[Sbaen]] yn ddogfennau hanesyddol pwysig ynddynt eu hunain. <ref>{{Cite web|url=https://collections.rmg.co.uk/collections/objects/14260.html|title=The Somerset House Conference, 19 August 1604 (Painting)|date=|access-date=12 mawrth 2019|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Caniatawyd portreadau o ffigurau byw ym 1969.
 
== Hawlfraint lluniau'r NPG ==
Yn 2009, bu anghydfod cyfreithiol rhwng yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ac un o olygyddion [[Wikipedia]], a lawr lwythodd filoedd o atgynhyrchiadau cydraniad uchel o bortreadau oedd yn y parth cyhoeddus o wefan yr NPG, a'u gosod ar [[Comin Wicimedia|Gomin Wikimedia]]. <ref>{{cite news|url=http://news.bbc.co.uk/2/hi/entertainment/arts_and_culture/8151989.stm|title=Gallery in Wikipedia legal threat|date=15 Gorffenaf 2009|publisher=British Broadcasting Corporation|work=BBC News|accessdate=12 Mawrth 2019}}</ref> Hawliodd yr Oriel ei bod yn dal hawlfraint yn y delweddau digidol a lwythwyd i Gomin, a'i bod wedi gwneud buddsoddiad ariannol sylweddol wrth greu'r atgynhyrchiadau digidol hyn.
 
Yn 2012 trwyddedodd yr Oriel 53,000 o ddelweddau cydraniad isel dan drwydded [[Creative Commons|Creative Commons]], gan sicrhau eu bod ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer defnydd anfasnachol. <ref name="Atkinson">{{cite news|url=http://www.museumsassociation.org/museums-journal/news/22082012-npg-changes-image-licensing-to-allow-free-downloads|title=NPG changes image licensing to allow free downloads|author=Atkinson, Rebecca|date=22 Awst 2012|work=Museums Journal|accessdate=12 Mawrth 2019}}</ref>
 
Mae 87,000 o ddelweddau cydraniad uchel eraill ar gael at ddefnydd academaidd o dan drwydded yr Oriel ei hun sy'n gwahodd rhoddion am eu defnyddio; yn flaenorol, cododd yr Oriel tâl am ddelweddau cydraniad uchel.
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Oriel Bortreadau Genedlaethol}}
 
[[Categori:Amgueddfeydd Llundain]]
[[Categori:Orielau celf cenedlaethol]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig Gradd I Llundain]]
 
[[Categori:Prosiect Wicipobl]]
446,839

golygiad