Americaneiddio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau a manion using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Kosher McDonalds.JPG|bawd|Bwyty [[cosher]] y cwmni Americanaidd [[McDonald's]] yn [[Ashkelon]], [[Israel]].]]
Term a ddefnyddir i ddisgrifio'r dylanwad sydd gan [[Unol Daleithiau America]] ar [[diwylliant|ddiwylliannau]] gwledydd eraill yw '''Americaneiddio'''. Mae busnesau a brandiau Americanaidd i'w cael ar draws y byd o ganlyniad i draddodiad [[cyfalafiaeth|cyfalafol]] yr Unol Daleithiau sydd yn hybu [[masnach rydd]], [[globaleiddio]], a'r [[cwmni amlwladol]]. Mae cyfryngau Americanaidd, gan gynnwys cerddoriaeth boblogaidd, rhaglenni teledu, a ffilmiau [[Hollywood]], wedi ymledu nid yn unig i weddill y [[Saesneg]] ond ar draws yr holl fyd. Modd o [[imperialaeth ddiwylliannol]] neu [[neowladychiaeth]] yw Americaneiddio yn ôl rhai, ac mae rhai yn ei weld yn danwydd i [[gwrth-Americaniaeth|wrth-Americaniaeth]].