Barry Morgan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: de:Barry Morgan
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Archesgob Cymru]] yw'r Parchedicusaf Ddr '''Barry Morgan''' (ganed [[1947]]).
 
Yn enedigol o [[Castell-nedd|Gastell Nedd]], de [[Cymru]] fe ddarllenodd hanes yn [[Prifysgol Llundain|Llundain]] a [[diwinyddiaeth]] yng [[Prifysgol Caergrawnt|Nghaergrawnt]], a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn WescottWestcott House, Caergrawnt. Astudiodd am ddoethuriaeth pan oedd yn ddarlithydd prifysgol. Bu’n gweithio mewn ystod o gyd-destunau gweinidogaethol - mewn gweinidogaeth plwyf, fel darlithydd prifysgol a choleg diwinyddol a chaplan prifysgol, ac fel archddiacon, cyfarwyddwr ordinandiaid a swyddog addysg weinidogaethol barhaus. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd, ac yn gwasanaethu ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yn aelod o Gomisiwn Lambeth a gynhyrchodd Adroddiad Windsor 2004.
 
Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau; y diweddaraf o’r rheini oedd astudiaeth o waith y bardd [[R. S. Thomas]], ''Strangely Orthodox''. Mae hefyd ar hyn o bryd yn Bro-Ganghellor [[Prifysgol Cymru]], cymrawd Prifysgolion Caerdydd, UWIC, Bangor a Llanbedr Pont Steffan a Llywydd y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, ac mae newydd gadeirio ymchwiliad ar ran Shelter Cymru ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n mwynhau chwarae golff a darllen nofelau yn ei oriau hamdden.