Moment: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso'r ty
ei fesur gyda newton-metr
Llinell 1:
Gair y [[ffiseg]]ydd am '''foment''' neu '''foment o rym''' ydy "trorym" (Saesneg: ''torque'') sef tueddiad grym i droi gwrthrych o gwmpas [[echel]], [[ffwlcrwm]] neu [[colyn|golyn]]. Gair y peiriannydd mecanyddol ydy "moment", sy'n ein hatgoffa o air tebyg mwy cyffredin sef "momentwm" er bod hwnnw'n gysyniad cwbl wahanol. Caiff ei feur gan yr [[System Ryngwladol o Unedau|uned SI rhyngwladol]] [[newton-metr]] (symbol: N m).
 
Os medrwn ddisgrifio amlygiad grym fel tynnu neu wthio yna medrwn ddisgrifio moment fel dirdroi, troad sgriw neu gylchdroi. Pan ydym yn tynhau neu'n llacio bollt efo sbaner rydym yn defnyddio moment. Gan fod dau enw, ceir hefyd dau symbol. Y symbol am trorym ydy'r llythyren Roegaidd ''τ'', a'r symbol am "moment" ydy M. Yn America, dim ond y gair "torque" a ddefnyddir.