Theresa May: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 115:
Gwasanaethodd mewn sawl swydd yng Nghabinedau Cysgodol [[William Hague]], [[Iain Duncan Smith]], [[Michael Howard]], a [[David Cameron]], yn cynnwys [[Tŷ'r Cyffredin|Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin]] ac Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau, cyn cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb yn 2010, gan roi'r gorau i'r ail rôl yn 2012. May oedd yr Ysgrifennydd Cartref hiraf yn ei swydd ers 60 mlynedd. Dywedir iddi: weithio ar ddiwygio'r heddlu, gymeryd safbwynt cadarnach ar bolisi cyffuriau ac iddi ail-gyflwyno cyfyngiadau ar [[mewnfudo|fewnfudo]].
 
==Prif Weinidog==
==Arweinydd y Blaid Geidwadol==
Ym Mehefin 2016, cyhoeddoedd May ei chais yn etholiad arweinydd y Blaid Geidwadol, a daeth i fod yn ffefryn yn gyflym iawn. Enillodd y bleidlais ddirgel gyntaf ar 5 Gorffennaf 2016 gyda 50% o'r pleidleisiau. Ar 7 Gorffennaf, enillodd May 199 pleidlais gan Aelodau Seneddol Ceidwadol; fe fyddai'n wynebu pleidlais gan aelodau'r Blaid Geidwadol ar draws y DU mewn cystadleuaeth gyda [[Andrea Leadsom]], un o brif ffigyrau yr ymgyrch [[Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016|Brexit]].<ref>{{cite news|title=Theresa May v Andrea Leadsom to be next prime minister|url=http://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-36737426|accessdate=8 Gorffennaf 2016|publisher=BBC News|date=8 Gorffennaf 2016}}</ref> Ar 11 Gorffennaf fe adawodd Leadsom y gystadleuaeth yn dilyn sylwadau dadleuol a wnaed ganddi dyddiau ynghynt.<ref>{{cite news |url= http://www.theguardian.com/politics/live/2016/jul/05/brexit-live-tory-leadership-tom-watson-unions-jeremy-corbyn?page=with:block-577bee87e4b0445bf0e06ef6#block-577bee87e4b0445bf0e06ef6|title=May wins easily with backing of 50% of Tory MPs – and Fox drops out|newspaper=The Guardian |location=London |date=5 Gorffennaf 2016 |access-date=5 Gorffennaf 2016}}</ref> Wedi i Leadsom dynnu allan ni chynhaliwyd cystadleuaeth yn ôl rheolau'r Blaid Geidwadol ac arweiniodd hyn at May yn cael ei phenodi yn arweinydd y Blaid ar yr un diwrnod.<ref name="BBC11July" /><ref>http://www.theguardian.com/politics/blog/live/2016/jul/11/andrea-leadsom-apologises-to-theresa-may-politics-live?page=with:block-5783b338e4b0ea445f0fe2f4#block-5783b338e4b0ea445f0fe2f4</ref> Ar unwaith, cyhoeddodd y Prif Weinidog [[David Cameron]] ei ymddiswyddiad.<ref>http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36771772 Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 12 Gorffennaf 2016.</ref>
 
Daeth May yn Brif Weinidog ar 13 Gorffennaf 2016.
 
==== Ymddiswyddiad ====
Ar 27 Mawrth 2019, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor 1922, cadarnhaodd May na fyddai yn arwain cam nesaf trafodaethau Brexit, oedd yn golygu ei bod yn bwriadu ymddiswyddo ar ôl pasio ei trydydd pleidlais 'ystyrlon' ar ei chytundeb gyda'r EU.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-47725529|title=May vows to quit if Brexit deal passed|date=2019-03-27|access-date=2019-03-27|language=en-GB}}</ref> Ni rhoddwyd dyddiad, fodd bynnag, a roedd y geiriau a ohebwyd yn amwys a felly ddim yn gadarn.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-47725529|title=May vows to quit if Brexit deal passed|date=2019-03-27|access-date=2019-03-27|language=en-GB}}</ref> Ar 29 Mawrth, gorchfygwyd y trydydd pleidlais ystyrlon, ac er na ddywedodd May ddim am sefyll lawr, dywedodd Corbyn fod yn rhaid iddi fynd nawr os nad oedd yn gallu dod i gytundeb gwahanol.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-47752017|title=MPs reject May's EU withdrawal agreement|date=2019-03-29|access-date=2019-03-29|language=en-GB}}</ref>
 
Ar 22 Ebrill 2019 cyhoeddwyd fod 70 Cymdeithas Geidwadol wedi arwyddo deiseb yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder. O dan rheolau'r blaid, roedd rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig os oedd gofyn am un gan fwy na 65 cymdeithas. Byddai'r bleidlais, i'w benderfynu gan 800 o uwch swyddogion y blaid, wedi bod y tro cyntaf i hynny ddigwydd.<ref>{{cite web|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-48011201|title=PM to face grassroots no-confidence vote|date=22 April 2019|publisher=|accessdate=22 April 2019|via=www.bbc.co.uk}}</ref> Ar 24 Ebrill penderfynodd Pwyllgor 1922 beidio newid y rheolau ar herio'r arweinyddiaeth, ond gofynnodd y cadeirydd Graham Brady am eglurder ar pryd y byddai May yn sefyll lawr.<ref>{{cite news|url=https://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-48032990 |title=Theresa May: Senior Tories rule out early challenge to PM |work=BBC News |publisher=BBC |date=24 April 2019 |accessdate=24 April 2019}}</ref> Ar 24 Mai gwnaeth May ddatganiad tu allan 10 Downing Street yn cyhoeddi y byddai yn ymddiswyddo ar 7 Mehefin, ond yn parhau fel Prif Weinidog nes i arweinydd newydd ei ddewis.<ref name="BBC resignation 24 May" />
 
== Gweler hefyd ==