Theresa May: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 121:
 
==== Ymddiswyddiad ====
Ar 27 Mawrth 2019, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor 1922, cadarnhaodd May na fyddai yn arwain cam nesaf trafodaethau Brexit, oedd yn golygu ei bod yn bwriadu ymddiswyddo ar ôl pasio ei trydyddthrydydd pleidlais 'ystyrlon' ar ei chytundeb gyda'r EU.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-47725529|title=May vows to quit if Brexit deal passed|date=2019-03-27|access-date=2019-03-27|language=en-GB}}</ref> Ni rhoddwyd dyddiad, fodd bynnag, a roedd y geiriau a ohebwyd yn amwys a felly ddim yn gadarnaddewid cadarn.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-47725529|title=May vows to quit if Brexit deal passed|date=2019-03-27|access-date=2019-03-27|language=en-GB}}</ref> Ar 29 Mawrth, gorchfygwyd y trydydd pleidlais ystyrlon, ac er na ddywedodd May ddim am sefyll lawr, dywedodd Corbyn fod yn rhaid iddi fynd nawr os nad oedd yn gallu dod i gytundeb gwahanol.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-47752017|title=MPs reject May's EU withdrawal agreement|date=2019-03-29|access-date=2019-03-29|language=en-GB}}</ref>
 
Ar 22 Ebrill 2019 cyhoeddwyd fod 70 Cymdeithas Geidwadol wedi arwyddo deiseb yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder. O dan rheolau'r blaid, roedd rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig os oedd gofyn am un gan fwy na 65 cymdeithas. Byddai'r bleidlais, i'w benderfynu gan 800 o uwch swyddogion y blaid, wedi bod y tro cyntaf i hynny ddigwydd.<ref>{{cite web|url=https://www.bbc.com/news/uk-politics-48011201|title=PM to face grassroots no-confidence vote|date=22 April 2019|publisher=|accessdate=22 April 2019|via=www.bbc.co.uk}}</ref> Ar 24 Ebrill penderfynodd Pwyllgor 1922 beidio newid y rheolau ar herio'r arweinyddiaeth, ond gofynnodd y cadeirydd Graham Brady am eglurder ar pryd y byddai May yn sefyll lawr.<ref>{{cite news|url=https://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-48032990 |title=Theresa May: Senior Tories rule out early challenge to PM |work=BBC News |publisher=BBC |date=24 April 2019 |accessdate=24 April 2019}}</ref> Ar 24 Mai gwnaeth May ddatganiad tu allan i 10 Downing Street yn cyhoeddi y byddai yn ymddiswyddo ar 7 Mehefin, ond yn parhau fel Prif Weinidog nes i arweinydd newydd ei ddewis.<ref name="BBC resignation 24 May" />
 
== Gweler hefyd ==