Tsunami Cefnfor India 2004: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
dol
Llinell 3:
Yn dilyn daeargryn yng [[Cefnfor India|Nghefnfor India]] am 00:58:53 UTC ar 26 Rhagfyr 2004, cafwyd [[Tsunami]] enfawr. Lleolwyd canolbwynt y daeargryn ar arfordir gorllewinol [[Sumatra]], [[Indonesia]]. Achosodd y daeargryn gyfres o tsunamis dinistriol ar hyd arfordiroedd y gwledydd ar lannau'r Môr Indiaidd. Gwelwyd tonnau o hyd at 30 metr (100 troedfedd) o uchder. Bu farw dros 225,000 o bobl mewn 11 gwlad, gyda miloedd mwy wedi eu hanafu gan golli eu holl eiddo. Effeithiodd ar arfordiroedd [[Indonesia]], [[Gwlad Thai]], gogledd orllewin [[Malaysia]], [[Myanmar]], [[Bangladesh]], [[India]], [[Sri Lanka]], y [[Maldives]] ac hyd yn oed [[Somalia]], [[Kenya]], [[Tanzania]] a'r [[Seychelles]] yn nwyrain [[Affrica]].
 
Mesurodd y daeargryn rhwng 9.1 a 9.3 ar [[Graddfa Richter|Raddfa Richter]] a dyma oedd yr ail ddaeargryn fwyaf erioed i gael ei gofnodi ar seismograff. Parhaodd y daeargryn am rhwng 8.3 a 10 [[munud]]. Achosodd i'r holl blaned ddirgrynnu cymaint a 1cm (0.5 modfedd) gan achosi daeargrynfeydd eraill mor bell i ffwrdd ag [[Alaska]]. Gelwir y drychineb Daeargryn Fawr Sumatra-Andaman gan y gymuned wyddonol ond caiff ei alw'n Tsunami Asia a Tsunami Dydd San Steffan hefyd.Dyma oedd un o drychinebau naturiol mwyaf marwol erioed. O ganlyniad i'r drychineb mae [[UNESCO]] a chyrff eraill wedi galw am system fonitro a fydd yn gallu rhoi rhybudd bod tsunami ar ddigwydd fel ag sydd yn y [[Môr Tawel]].
 
Bu elusennau yn codi arian i helpu'r trueiniad a bu ymateb y cyhoedd drwy'r gwledydd yn rhyfeddol. Ledled y byd, cyfrannwyd dros $7 biliwn (doleri'r [[UDA]] yn 2004). Cynhaliwd cyngerdd yn [[Stadiwm y Mileniwm]] yng Nghaerdydd a gododd dros filiwn a chwarter o bunnoedd.