Ystrad Clud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ceredig ap Cunedda
sydd nawr
Llinell 2:
[[Delwedd:North_Britain_547-685.png|bawd|200px|Map o'r Hen Ogledd]]
 
Teyrnas Frythonig yn [[yr Hen Ogledd]], yn yr ardal sy'nsydd awrnawr yn [[Strathclyde]] yng ngorllewin [[yr Alban]] oedd '''Ystrad Clud''' neu '''Strat Clut''' ([[Gaeleg]]: ''Srath Chluaidh''). Gelwid y deyrnas hefyd yn '''Alt Clut''' (Cymraeg Diweddar "Allt Clud"), o'r enw am yr hyn a elwir heddiw'n [[Castell Dumbarton|Graig Dumbarton]], lle roedd prifddinas y deyrnas. Efallai fod y deyrnas wedi datblygu o diriogaeth llwyth y [[Damnonii]], a grybwyllir gan [[Ptolemi]] yn y cyfnod Rhufeinig.
 
Nid oes sicrwydd ymhle'r oedd ffiniau'r deyrnas, ond mae'n debyg ei bod yn ymestyn o ardal [[Loch Lomond]], ar hyd dyffryn [[Afon Clyde]] ac i'r de at ardal [[Aeron]] (o gwmpas [[Ayr]] heddiw). Cofnodir i "Coroticus" ([[Ceredig ap Cunedda]]) dderbyn llythyr gan [[Sant Padrig]]. Disgynnydd iddo ef oedd [[Rhydderch Hael]], oedd yn cydoesi ag [[Urien Rheged]]. Yn [[642]], cofnodir i Frythoniaid Alt Clut dan [[Owain I, brenin Alt Clut|Owain I]], mab [[Beli I, brenin Alt Clut|Beli I]] orchfygu byddin [[Dál Riata]] a lladd eu brenin, [[Dyfnwal Frych]] (Domnall Brecc). Ymgorfforwyd pennill yn dathlu'r fuddugoliaeth yma yn nhestun ''[[Y Gododdin]]''.