Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Yr Almaen"

Ychwanegwyd 84 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎top: Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB)
{{prif|Hanes yr Almaen}}
 
Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o [[Afon Rhein]] yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn [[9|9 OC.]] gorchfygwyd byddin Rufeinig dan [[Publius Quinctilius Varus|''Publius Quinctilius Varus'']] gan gynghrair o lwythau Almaenig dan [[Arminius]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]]. Dinistriwyd tair [[lleng Rufeinig]] yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.
 
Sefydlwyd [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]] yn y [[9g]], a pharhaodd hyd [[1806]]. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys [[Awstria]], [[Slofenia]], [[Gweriniaeth Tsiec]], gorllewin [[Gwlad Pwyl]], [[yr Iseldiroedd]], dwyrain [[Ffrainc]], [[y Swistir]] a rhan o ogledd [[yr Eidal]]. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y [[16g]], a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".
Ffurfiwyd y [[Conffederasiwn Almaenig]] yn [[1815]], yna ffurfiwyd [[Ymerodraeth yr Almaen]] yn [[1871]], gydag [[Otto von Bismarck]] yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], a ffodd yr ymerawdwr [[Wilhelm II]] i'r Iseldiroedd.
 
Sefydlwyd [[Gweriniaeth Weimar]] yn [[1919]], ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd [[Cytundeb Versailles]]. Yn [[1933]] daeth [[Adolf Hitler]] yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd [[y Drydedd Reich]]. Arweiniodd hyn at [[yr Ail Ryfel Byd]] [[1939]] - [[1945]]. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, [[Gorllewin yr Almaen]] a [[Dwyrain yr Almaen]]. Parhaodd hyn hyd [[1990]], pan adunwyd y wlad.
 
== Daearyddiaeth ==
 
Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:
* [[Berlin]] 3.4 miliwn,
* [[Hamburg]] 1.75 miliwn,
* [[München]] 1.3 miliwn,
* [[Cwlen]] (''Köln'') 0.98 miliwn,
* [[Frankfurt am Main]] 0.65 miliwn.
 
=== Crefydd ===
Y prif enwadau a chrefyddau yw:
* [[Eglwys Gatholig]] 31.4%,
* [[Eglwys Efengylaidd yr Almaen]] 30.8%,
* Dim crefydd 29.6%,
* [[Islam]] 4%,
* [[Eglwys Uniongred]] 2%.
 
Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne [[Bafaria]], ac yn ardal [[Cwlen]], tra bo Protestaniaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.
132

golygiad