Pladur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 4:
 
==Dull a defnydd==
;Pladuro
”....Byddai rhyw hoe fach wedyn [ar ôl y cynhaeaf gwair] cyn y cynhaeaf ŷd. Yr haidd fyddai gyntaf i aeddfedu tua diwedd Awst os ceid ha' da. Byddai'n ofynnol iddo aeddfedu yn wyn neu byddai'r col yn wydn a'r peiriant dyrnu yn methu cael haidd glan. Pladuriau fel rheol fyddai'r drefn i dorri, a gafrwyr yn dilyn, dau os byddai'r pladurwr yn deall ei grefft, a'i bladur wedi ei gosod allan ac yn finiwr penigamp.
Rhaid oedd bod yn daclus wrth afra, gofalu fod y gwellt yn yr ysgub yn gorwedd yr un ffordd a dim o'r brig yn gymysg, yna dewis rhwymyn, tynnu chwech neu saith gwelltyn ger eu brig a rhwymo'r ysgub oddeutu ei chanol. Byddai cwlwm arbennig i'w wneud, dau dro tynn yn y rhwymyn ac yna gwthio'r gweddill o dan y rhwymyn ond gofalu peidio gwthio'r brig rhag i'r grawn dyfu pe digwyddai fod tywydd gwlyb. Y gwaith nesaf fyddai codi'r ysgubau yn swp o bedair a rhwymo'r brigau drachefn gyda'r un math o rwymyn er mwyn iddynt aros ar eu traed pe deuai storm o wynt. Os ceid tywydd ffafriol, awel a haul ymhen pythefnos, byddai'r ŷd yn barod i'w gario, taflu'r sypiau i lawr a gofalu fod cwt yr ysgubau tua'r gwynt iddynt sychu yn iawn. Dyma'r ŷd eto i ddiogelwch ac i aros dyrnu.”<ref>Pigion o “Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” gan “Hen Ddwylo” (OT Jones efallai). Trwy law Carys Dafydd.</ref>