Anarawd ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
mân gywiriad sillafu
Llinell 1:
'''Anarawd ap Rhodri''' (bu farw 916), brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhwng 878 a 916.
 
Yr oedd tad Anarawd, [[Rhodri Mawr]] wedi dod yn frenin y rhan fwyaf o Gymru erbyn diwedd ei oes, ond pan fu farw yn [[878]] rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion. Etifeddodd Anarawd orsedd Gwynedd. Cofnodir i Anarawd a'i frodyr Cadell a Merfyn gyweithredu'n glos yn erbyn brenhinoedd llai Cymru. Ymosododd yr Iarll Aethelred o Fercia ar Wynedd yn [[881]], ond llwyddodd Anarawd i enillennill buddugoliaeth waedlyd dosto mewn brwydr ger ceg Afon Conwy, a glodforir gan y croniclydd fel "Dial Duw am Rodri", gan fod Rhodri wedi ei ladd mewn brwydr yn erbyn y Mersiaid
 
Gwnaeth Anarawd gytundeb a brenin Danaidd [[Efrog]] i geisio gwarchod rhag ymosodiadau eraill gan Mercia. Pan brofodd y cytundeb yma'n anfoddhaol, daeth i gytundeb ag [[Alffred Fawr]] o Wessex, gan ymweld a llys Alffred. Yn gyfnewid am amddiffyniad Alffred, derbyniodd Anarawd flaenoriaeth Alffred. Dyma'r tro cyntaf i frenin Gwynedd dderbyn blaenoriaeth brenin Seisnig, a daeth yn gynsail i'r goron Seisnig hawlio gwarogaeth o hynny ymlaen.