Cragen ddeuglawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Wystrus: Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 16:
Gall hwn fod y wystrysen fwyaf i'w gweld ym Mhrydain?<ref>Fe’i cafwyd ar draeth y Foryd yn Llanfaglan gan Tony Lovell, Caernarfon (ym Mwletin Llên Natur rhifyn 52[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn52.pdf]</ref>
Dyma adroddiad yn y Guardian yn 2009 am un “mwyaf” arall llai: ''It measures 18cm (7ins) across and weighs 1.36kg (3lbs), apparently the largest recorded in British waters. The previous largest, found in Scotland, weighed 0.83kg (1.8lbs).''
 
==Pysgodfa cregyn gleision aber yr afon Conwy==
 
;Labordy Conwy
Mae cregyn gleision Conwy yn fyd enwog. Yng nghanol yr 1980au. Bu Stephen Lockwood yn gyfarwyddwr Labordy Pysgodfeydd Conwy hyd nes iddo gau ym 1999. Rol Labordy Conwy oedd gwneud gwaith ymchwil ar feithrin pysgod a physgod cregyn ag effeithiau pysgota ar yr amgylchedd morol. Bu pysgodfa a physgotwyr cregyn gleision Conwy â chysylltiad agos â'r labordy a bu labordy Conwy yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu technegau ar gyfer cynhyrchiad masnachol y rhywogaethau hyn, technegau sy'n cael eu defnyddio ledled y byd.<ref name=Pentan2019>Seiliedig ar adroddiad yn dilyn darlith (“Cregyn Gleision, Carthion a Gwyddoniaeth: Hanes Tanciau Cregyn Gleision Benarth”) gan y biolegydd pysgodfeydd morol Stephen Lockwood ym mis Ionawr 2019 ym mhapur bro Y Pentan Cyfrol 40 Rhifyn 2 (awdur yr adroddiad yn anhysbys)</ref>
 
;Rheoleiddio’r gwelyau cregyn
Mae cregyn gleision yn amrywio yn nhermau eu nodweddion a'r gwahanol fathau ohonynt. Mae angen rheoleiddio gwelyau'r cregyn gleision mewn mannau penodol ar aber yr afon Conwy. Mae dull lleol a lled unigryw o gasglu’r cregyn gleision sydd yn cael ei rannu a dull tebyg yn Long Island yn UDA, sef cribin arbennig.<ref name=Pentan2019/>.
 
;Haint
Yn oes aur y diwydiant ar y Gonwy amlygwyd problemau y gellid cael eu hachosi trwy fwyta cregyn gleision. Bu cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal yn y 19G ac ar ddechrau'r 20G. Nid oedd carthion yn cael eu trin cyn iddynt gael eu harlIwys i Afon Conwy ac fe achoswyd yn sgil hynny broblemau coluddol i'r rhai oedd yn bwyta'r cregyn. Ym 1912, caewyd y bysgodfa gan yr awdurdodau iechyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, penodwyd bacteriolegydd enwog, Robert Dodgson (dim yn berthynas I Charles "Lewis Carroll" Dodgson) gan Gyngor Conwy. Ei waith oedd datrys y broblem. Cynlluniodd ddull syml a dibynadwy i buro'r cregyn gleision. Mabwysiadwyd y model ar draws y byd. <ref>Seiliedig ar adroddiad darlith gan y biolegydd pysgodfeydd morol Stephen Lockwood ym mis Ionawr 2019 ym mhapur bro Y Pentan Cyfrol 40 Rhifyn 2 (awdur yr adroddiad yn anhysbys)<ref name=Pentan2019/>.
 
==Cyfeiriadau==