Pedr a'r Blaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr using AWB
Llinell 4:
 
==Cefndir==
Ym 1936, rhoddwyd comisiwn i Sergei Prokofiev gan [[Natalya Sats]], cyfarwyddwrcyfarwyddwraig Theatr Ganolog y Plant ym [[Moscfa|Moscow]], i ysgrifennu symffoni gerddorol i blant. Roedd Sats a Prokofiev wedi dod i nabod ei gilydd ar ôl iddo ymweld â'i theatr gyda'i feibion sawl gwaith. <ref name="NYT50">[https://www.nytimes.com/1985/11/10/arts/prokofiev-s-peter-and-the-wolf-is-50-years-old.html New York Times 10 Tachwedd 1985 PROKOFIEV'S 'PETER AND THE WOLF' is 50 YEARS OLD] adalwyd 17 Tachwedd 2018</ref> Y bwriad oedd cyflwyno plant i offerynnau unigol y gerddorfa. Roedd drafft cyntaf y libreto yn ymwneud ag Arloeswr Ifanc (y fersiwn Sofietaidd o'r Sgowtiaid) o'r enw Pedr sy'n cywiro anghyfiawnder trwy herio oedolyn. (Roedd hwn yn thema gyffredin mewn propaganda wedi'i anelu at blant yn [[yr Undeb Sofietaidd]] ar y pryd.) Fodd bynnag, roedd Prokofiev yn anfodlon â'r testun mewn odl a gynhyrchwyd gan Antonina Sakonskaya, awdur plant poblogaidd. Ysgrifennodd Prokofiev fersiwn newydd lle mae Pedr yn dal [[blaidd]]. Yn ogystal â hyrwyddo rhinweddau arloesol a ddymunir megis gwyliadwriaeth, dewrder a dyfeisgarwch, mae'r plot yn dangos themâu Sofietaidd megis ystyfnigrwydd y genhedlaeth hŷn wrth-[[Bolsiefic|Folsieficaidd]] (y taid) a buddugoliaeth ''dyn'' (Pedr) i drechu ''natur'' (y blaidd). <ref>[https://books.google.co.uk/books?id=awo6r7a90yUC&pg=PT51&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false Morrison, Simon. The People's Artist: Prokofiev's Soviet Years. Oxford University Press. tud. 51. ISBN 9780199830985.]</ref>
 
Cynhyrchodd Prokofiev fersiwn ar gyfer y [[piano]] mewn llai nag wythnos, gan orffen ar Ebrill 15. Gorffennwyd y trefniant cerddorfaol ar Ebrill 24. Rhoddwyd perfformiad cyntaf y gwaith mewn cyngerdd i blant ym mhrif neuadd Conservatoire Ffilharmonig Moscow gyda cherddorfa Ffilharmonig Moscow ar 2 Mai 1936. Fodd bynnag, roedd Sats yn sâl ac roedd y llefarydd a chymerodd ei le yn ddibrofiad, a methodd y perfformiad i ddenu llawer o sylw. <ref name="NYT50" /> <ref>{{cite book|last1=McSmith|first1=Andy|title=Fear and the Muse Kept Watch: The Russian Masters from Akhmatova and Pasternak to Shostakovich and Eisenstein Under Stalin|publisher=New Press, The|isbn=9781620970799|page=229|url=https://books.google.com/books?id=mbvoBgAAQBAJ&pg=PA229|}}</ref><ref>{{cite web|title=Boston Symphony Orchestra concert program, Subscription Series, Season 57 (1937-1938), Week 20 :: BSO Program Books|url=http://cdm15982.contentdm.oclc.org/cdm/ref/collection/PROG/id/154677|website=cdm15982.contentdm.oclc.org}}</ref><ref>{{cite book|author=Prokofiev, Sergei (2000) |date=1960|editor= Shlifstein, S|title=Autobiography, Articles, Reminiscences|author2=Prokofieva, Rose (cyfieithydd)|publisher=The Minerva Group, Inc|page= 89 |isbn= 0-89875-149-7}}</ref> Yn ddiweddarach y mis hwnnw, rhoddwyd perfformiad llawer mwy llwyddiannus gyda Sats yn lleisio ym Mhalas Arloeswyr Moscow. Cynhaliwyd y perfformiad [[Unol Daleithiau America|Americanaidd]] cyntaf ym mis Mawrth 1938, gyda Prokofiev ei hun yn arwain Cerddorfa Symffoni Boston yn Neuadd Symffoni [[Boston]] gyda Richard Hale yn lleisio. Erbyn hynny roedd Sats wedi ei dedfryd i gyfnod yn y gulag, lle cafodd ei hanfon ar ôl i'w chariad y Marsialydd Mikhail Tukhachevsky cael ei ddienyddio am frad ym mis Mehefin 1937. <ref>{{cite web|title=Performance History Search|url=http://archives.bso.org/Detail.aspx?UniqueKey=21464|website=archives.bso.org|}}</ref>