Afon Morda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Cows grazing beyond the ford - geograph.org.uk - 209273.jpg|250px|bawd|[[Rhyd]] ar Afon Morda ger Weston, Swydd Amwythig.]]
Un o ledneintiau [[Afon Efyrnwy]] yw '''Afon Morda'''. Gorwedd ei tharddle yng [[Cymru|Nghymru]] ond mae'n llifo trwy orllewin [[Swydd Amwythig]], [[Gorllewin Canolbarth Lloegr (rhanbarth)|Gorllewin Canolbarth Lloegr]], am weddill ei chwrs. Ei hyd yw tua 18 milltir.
 
Mae'r [[afon]] yn tarddu ym mhen gogleddol [[Y Berwyn]] yn sir [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]], ger pentref gwledig [[Llechrydau]]. Tua dwy filltir yn is i lawr mae hi'n croesi'r ffin i Loegr. Mae'r afon yn rhedeg ar gwrs deheuol, yn gyffredinol, trwy Swydd Amwythig i ymuno yn [[Afon Efyrnwy]] yn union ar y ffin â [[Powys|Phowys]] a Chymru. Llifa'r Efyrnwy yn ei blaen am rai milltiroedd i'w chymer ar [[Afon Hafren]] tua hanner ffordd rhwng [[Y Trallwng]] ac [[Amwythig]].