Silwriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: id:Silures
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:CymruLlwythi.PNG|250px|bawd|de|Llwythi Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.]]
Roedd y '''Silwriaid''' ([[Lladin]]: ''Silures'') yn llwyth [[Brythoniaid|Brythonaidd]] oedd yn byw yn ne-ddwyrain [[Cymru]] pan gyrhaeddodd y [[Rhufeiniaid]] i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen ynym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]], [[Gwent]] a [[Morgannwg]]. Roeddynt yn ffinio a'r [[Ordoficiaid]] yn y gogledd a'r [[Demetae]] yn y gorllewin. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog. Ymhlith y [[bryngaer]]au niferus ar eu tir y mae [[bryngaer CoedGoed Llanmelin]] yn sefyll allan fel canolfan bwysig.
 
Roedd y '''Silwriaid''' ([[Lladin]]: ''Silures'') yn llwyth [[Brythoniaid|Brythonaidd]] oedd yn byw yn ne-ddwyrain [[Cymru]] pan gyrhaeddodd y [[Rhufeiniaid]] i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen yn [[Brycheiniog|Mrycheiniog]], [[Gwent]] a [[Morgannwg]]. Roeddynt yn ffinio a'r [[Ordoficiaid]] yn y gogledd a'r [[Demetae]] yn y gorllewin. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog. Ymhlith y [[bryngaer]]au niferus ar eu tir y mae [[bryngaer Coed Llanmelin]] yn sefyll allan fel canolfan bwysig.
 
Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua [[48|48 OC]] ffodd [[Caradog]] atynt wedi i'w lwyth ei hun, y [[Catuvellauni]], gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn [[Ostorius Scapula|Publius Ostorius Scapula]] pan ymosododd Ostorius arnynt hwy ac ar yr Ordoficiaid.
 
Gorchfygwyd Caradog yn [[51]] yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymerydgymryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.
 
Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn [[52]] heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth ef gallasant orchfygu'r [[Legio II Augusta|yr Ail Leng]], oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens, cyn i'r llywodraethwr newydd, [[Aulus Didius Gallus]], gyrraedd. Yn [[57]], dechreuodd y llywodraethwr [[Quintus Veranius Nepos]] ymgyrch yn eu herbyn, ond bu farw yn fuan wedyn. Dim ond ugain mlynedd yn ddiweddarach, dan [[Sextus Julius Frontinus]], y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.
 
Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum ([[Caerwent]] heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Brycheiniog]], [[GwynllwgGwynllŵg]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Enwyd y cyfnod [[Silwraidd]] mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.